
Ysgol Goedwig
Beth yw Ysgol Goedwig?
Mae Ysgol Goedwig yn broses ysbrydoledig, lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion ddysgu amrywiaeth o sgiliau mewn amgylchedd coetir.Gall cyfranogwyr ddysgu am natur, datblygu hunanhyder a hunan-barch, datblygu cysylltiad â’r amgylchedd a pharch tuag ato, a gwella eu sgiliau cymdeithasol a phersonol.Mae Ysgol Goedwig yn canolbwyntio ar y plentyn, lle gall plant ddysgu trwy chwarae a gweithgareddau ymarferol, gwaith tîm a datrys problemau.
Arweinir Ysgol Goedwig Llyn Parc Mawr gan Melissa, arweinydd Ysgol Goedwig gymwys a phrofiadol. Rydym yn annog chwarae blêr gyda’n cegin fwd naturiol, chwarae gemau coetir, creu heriau natur, dysgu byw yn y gwyllt simyl a chaniatáu i blant archwilio’r coetir, gwneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel. Rydym yn ceisio cynnal sesiynau ym mhob tywydd, oni bai am rhagolwg gwyntoedd cryfion.
Picsis Llyn Parc
Sesiynau chwarae awyr agored ar gyfer plant cyn-ysgol a phlant addysg adra a rhieni / gofalwyr – dewch gyda‘ch plentyn / plant i chwarae yn y mwd, gemau coetir a gweithgareddau crefft. Efallai y bydd gennym ni dân a diod gynnes braf hefyd!
Bydd taliad bach o £2 y plentyn i dalu am luniaeth. Mae archebu’n hanfodol – plis cliciwch yma i archebu.
Nid oes gennym unrhyw sesiynau picsi wedi’u trefnu ar hyn o bryd. Gweler y tab digwyddiadau neu ein tudalen Facebook am ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Partïon penblwydd Ysgol Goedwig
Gallwn hefyd ddarparu partïon pen-blwydd Ysgol Goedwig, lle gall plant chwarae gemau coetir, gwneud gweithgareddau crefft pren, chynnau tân, a hyd yn oed coginio dros y tân. Gall plant fwynhau gadael stêm yn yr awyr agored gyda’u ffrindiau mewn amgylchedd diogel ac iach.
- Partïon penblwydd coetir
- Gemau Coetir
- Gweithgarreddau
- Cynnau tânau
- Crefftau pren
Bydd plant yn gallu gwneud rhywbeth allan o bren/deunyddiau naturiol i fynd adref gyda nhw. Byddwn yn darparu malws melys neu rhywbeth tebyg i dost dros y tân. Gallwn gynnwys gweithgaredd coginio tân ar gyfer plant hŷn hefyd, a gallwn deilwra partïon i oedrannau/galluoedd y plant.
Mae croeso i chi ddod a chacen ac unrhyw fwyd os hoffech ddarparu hyn, rhowch wybod i ni a byddwn yn rhoi amser a lle i wneud hyn. Cofiwch, er y gallwn ddarparu siocled poeth a malws melys, ni fyddwn yn darparu bagiau parti. Mae croeso i chi ddod â’r rhain, ond hoffem annog pobl i beidio â gwastraffu plastig gymaint â phosibl felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis beth i’w brynu.
Cost
£190 i hyd at 15 o blant. Plis cysylltwch a ni i brisiau ar gyfer mwy na 15 o blant.
