Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr

Cydweithio i greu coetir cynaliadwy ar gyfer
bywyd gwyllt a chymuned

Mae Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr yn grŵp o bobl sy’n byw yn Niwbwrch a’r cyffiniau a ddaeth at ei gilydd yn 2014 i helpu’r gymuned leol gael mwy o fwynhad o Goed Niwbwrch.

Yr hyn rydym ni’n ei wneud

Mae’r grŵp  coedwig cymunedol yn rheoli coetir o 24 hectar. Mae ein gwaith ni yn gwneud y coetir yn well i’r coed a’r anifeiliaid.  Rydym yn cael gwared o blanhigion ymledol, yn codi sbwriel, yn plannu mwy o goed, yn creu cynefinoedd newydd, tynnu coed anniogel ac yn bwydo’r adar a’r gwiwerod coch.

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn trefnu digwyddiadau, diwrnodau hyfforddi, gweithgareddau ysgol goedwig a diwrnodau gwirfoddolwyr er mwyn helpu pobl leol i fwynhau’r coetir. Mae ein digwyddiadau’n cynnwys helfeydd ffyngau, partïon cymunedol, teithiau ystlumod a gwyfynod, achlysuron ar thema’r goedwig, partïon pen-blwydd plant, teithiau tywysedig a digwyddiadau tymhorol.

Ymunwch â ni!

Rydym yn croesawu pawb a hoffai wirfoddoli i helpu rheoli’r coetir a gweithgareddau eraill yn Llyn Parc Mawr. Gallwch ddod yn aelod, neu hyd yn oed yn aelod pwyllgor os hoffech chi fod â mwy o ran – mae wastad yn dda gennym glywed syniadau newydd.

Canfod rhagor

Rhannu...