
Gwiwerod Cochion Llyn Parc Mawr
Mae niferoedd gwiwerod cochion wedi gostwng yn arw yn y DU yn ystod y 100 mlynedd diwethaf. Hynny oherwydd colli cynefin llydanddail ac effaith gwiwerod llwydion sydd yn cystadlu am adnoddau ac yn cludo firws sy’n lladd cochion.
Hyd y 1950au roedd digonedd o wiwerod cochion ym Môn. Yn ystod y 1970au gwelwyd rhai llwydion yn amlach ar yr ynys, wedi iddynt un ai nofio’r Fenai neu groesi un o’r ddwy bont. Credir i boblogaeth y gwiwerod cochion grebachu’n arw ddiwedd y 1980au wrth i niferoedd y llwydion gynyddu. Prin y gwelid cochion yn ystod y 1990au.
Erbyn 1997 roedd gwiwerod cochion Môn agos wedi darfod amdanynt, efo llai na 40 oedolyn yn weddill, oll yn un goedwig ac o un llinach fenywaidd.

Sefydlwyd prosiect cadwraeth i ailgyflwyno cochion i Fôn. Aeth y boblogaeth o 40 i tua 700. Gwnaed hyn trwy ddileu llwydion ar y cyd â rhaglen ailgyflwyno. Heddiw ceir 60% o wiwerod cochion Cymru ledled Môn. Datganwyd yn 2016 nad oedd yr un wiwer lwyd ar yr ynys.
Ailgyflwynwyd cochion i Goed Niwbwrch yn 2004, lle bu iddynt epilio’n helaeth, a rŵan fe’u ceir ledled y goedwig, ac yn enwedig o fewn Llyn Parc Mawr. Os eisteddwch yn ddistaw wrth y byrddau picnic sy’n edrych tua’r mannau bwydo, efallai y cewch fraint golwg dda ar ein cochion eiconig ni.
Rydym wedi gweithio’n ddygn yn Llyn Parc Mawr i ddarparu cynefin amrywiol i bob anifail, ond ein gwiwerod cochion yn arbennig.
Y grŵp coetir sy’n talu am y bwyd a roddir i’r gwiwerod cochion, a byddem ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau y carech eu rhoi yn ein blwch rhoddion yn y maes parcio neu trwy’r botwm cyfrannu ar y wefan hon.
Ffeithiau Gwiwerod Cochion

- Yng nghoed y maen nhw’n byw – treuliant 75% o’u bywydau ym mhennau coed
- Fe’u ceir mewn coetir llydanddail a chonwydd cymysg, gan sicrhau bod ganddynt fwyd gydol y flwyddyn
- Mae eu bwydlen yn amrywiol iawn – hadau coed pîn, blagur, blodau, dail, ffrwythau, cnau, pryfed, ac weithiau wyau adar a ffyngau a gesglir ac a sychir trwy eu gwthio i ganghennau coed
- Nid ydynt yn gaeafgysgu, felly maen nhw’n celcio bwyd i’w cadw trwy’r gaeaf pan nad yw bwyd ffres ar gael. Yn gyffredinol, gwnânt hyn yn yr hydref.
- Ni fwytânt fes. Mae gormod o dannin ym mes, ac y mae’n effeithio ar eu system dreulio.
- Byddant fyw 3 mlynedd ar gyfartaledd, ond gallant fyw hyd at 6 mlynedd
- Gwnânt nythod o briciau a mwsogl ym mrig y canghennau
- Maent yn paru rhwng Ionawr a Mawrth
- Gallant esgor ar ddwy dorllwyth o dri neu bedwar gwiwer fach y flwyddyn, ym Mawrth a Gorffennaf, fel arfer
- Mae ganddynt bedwar bys a phum bys troed
- Gallant fod yn llaw dde neu’n law chwith, yn union fel ni
- Gallant droi eu traed ôl trwy 180o gan ganiatáu iddynt ddod i lawr coeden wyneb i waered
- Mae gwiwer goch llawn maint tua 20 cm o hyd, â chynffon flewog sydd bron cyhyd â’i chorff
- All lliw eu blew amrywio o bron yn ddu i goch gwelw, a hyd yn oed llwyd, pryd y mae’n hawdd eu camgymryd am wiwerod llwydion
- Mae eu boliau wastad o liw hufen
- Maent yn bwrw’u blew ddwywaith y flwyddyn, haf a gaeaf, ond tusw blew’r clustiau a’r gynffon ddim ond unwaith y flwyddyn, ddiwedd yr haf
- Mae’r benywod yn bwrw’u blew wedi eu torllwyth gyntaf
- Gall tusw blew’r clustiau fod hyd at 2.5 cm o hyd
- Maen nhw’n nofwyr ardderchog
- Maen nhw fwyaf bywiog yn ystod y dydd, pan dreuliant y rhan fwyaf o’u hamser yn chwilota am fwyd
Chwiliwch am dystiolaeth o Wiwerod Cochion
- Nythod ym mrig y coed, o siâp pêl droed
- Conau pinwydd wedi’u rhisglo
- Cregyn cnau cyll wedi’u hollti

Gwahaniaethau rhwng cochion a llwydion
- Gall llwydion dreulio mes, sydd ddim yn dda i gochion
- Mae llwydion yn pwyso agos ddwywaith cymaint â chochion
- Mae llwydion yn treulio rhagor o amser ar y ddaear
- Nid oes gan lwydion fyth dusw blew clust
- Mae gan lwydion, fel arfer, flew gwyn sydd i’w gweld yn amlwg ar hyd ymyl y gynffon

