Ein stori

Ein hanes ni

Ynglŷn â Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr

Pwy ydym ni

Yn 2014 cynhaliodd ragor na 80 o drigolion Niwbwrch a’r cyffiniau gyfarfod i drafod posibilrwydd cael rhan i’r gymuned yn rheoli Coed Niwbwrch.   

Yn dilyn 3 cyfarfod cymunedol dilynol, rydym yn creu Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr.  Daeth cyfnod o drafod efo Cyfoeth Naturiol Cymru i ben efo cytundeb rheoli am tia 150 erw o Goed Niwbwrch.

Mae’n bwysig cofio bod y grŵp hwn ar gyfer pawb yn y gymuned leol, felly os hoffech chi fod â rhan, byddai croeso mawr i chi! Mae yna wastad lawer o ddatblygiadau cyffrous sy’n creu digon o waith i’r grŵp, felly gorau po fwyaf o gymorth y cawn ni!

Ein diben ni

Diben y Cwmni yw sefydlu Llyn Parc Mawr fel coetir cynaliadwy er budd bywyd gwyllt, a chyfrannu at les cymuned Niwbwrch a’r cyffiniau, ac i’r cyhoedd fwynhau:

  1. Sicrhau coedwigaeth gynhyrchiol, amrywiol a chadarn gan ddefnyddio systemau coedwriaethol addas. Sicrhau a chynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd bywyd gwyllt gweithredol, efo poblogaethau iach, hyfyw a chadarn o blanhigion ac anifeiliaid brodorol.
  2. Cefnogi cynnal lles pobl Niwbwrch a’r cyffiniau trwy:
  • Annog ymdeimlad o le
  • Adeiladu hunaniaeth gymunedol
  • Darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden a chymdeithasol, a
  • Chyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith ac addysg

Ein Gweledigaeth ni

Y weledigaeth yw creu coetir ffyniannus er mwyn gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth Llyn Parc Mawr a chyfrannu at les tymor hir y gymuned. Caiff y coetir tan reolaeth Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr(GCCLlPM) ei reoli er sawl diben. Y prif ddibenion yw ar gyfer hamdden, iechyd a lles, bioamrywiaeth, cynhyrchu pren ar raddfa fechan i’w ddefnyddio yn yr economi lleol, a bod yn adnodd addysg cymunedol.

Y weledigaeth ar gyfer deng mlynedd o rŵan yw bod â chysylltiad a chyfraniad ffyniannus gan y gymuned mewn perthynas â’u coetir nhw. Bod pobl yn defnyddio, yn dysgu ac yn mwynhau bod yn y coetir, ac â rhan weithredol mewn cadw’r amgylchedd er lles y gymuned a natur.  Daw’r coetir yn fwy amrywiol ei rhywogaethau coed trwy blannu amryw rywogaethau llydanddail brodorol ac Ewropeaidd a rhywogaethau conwydd estron. Ymhen 50 mlynedd bydd gan y coetir binwydd, deri a choed castan ymysg y coed talaf, ynghyd â chanran fechan o binwydd Corsica goraeddfed. Bydd haen dda o brysgwydd, a haen amrywiol yn agosach ar y ddaear. Bydd digonedd o goed ifainc yn yr haen isaf i ddod i le’r coed hŷn wrth i’r rheiny gael eu cwympo. Bydd y coetir yn parhau i gael ei reoli trwy goedwigaeth gorchudd di-fwlch, a sefydlir trefn dewis coed unigol er mwyn darparu pren o ansawdd da ar gyfer y gymuned. 

Yr hyn rydym ni’n ei wneud

Amcanwn reoli Llyn Parc Mawr ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Plannu coed, planhigion a bylbiau newydd
  • Cael gwared ar goed anniogel
  • Cael gwared ar rywogaethau planhigion ymledol
  • Bwydo’r adar a’r gwiwerod cochion
  • Clirio sbwriel
  • Trwsio ffensys

Mae peth o’n gwaith ni ychydig yn llai awyr agored, ond yn angenrheidiol iawn!

  • Cael barn a syniadau defnyddwyr y goedwig
  • Cynnal arolwg o’r hyn sydd yn y goedwig eisoes
  • Ysgrifennu cylchlythyrau
  • Cyfarfod yn rheolaidd efo perchen y tir
  • Trafod ein cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol
  • Cyfarfod â grwpiau coetir eraill
  • Cynnal y wefan hon
  • Diweddaru ein cyfrifol cyfryngau cymdeithasol
  • Tywys grwpiau o gwmpas
  • Mynd i arddangosfeydd
  • Ceisio cymorthdaliadau

Ond rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y goedwig, hefyd, felly ’da ni’n cael llwyth o hwyl, hefyd!

  • Sesiynau chwarae plant yn yr awyr agored – Tylwyth Teg Llyn Parc
  • Helfeydd trychfilod
  • Arolygon anifeiliaid a phlanhigion
  • Teithiau cerdded gwyfynod ac ystlumod
  • Helfeydd ffyngau
  • Sesiynau Ysgol y Coed
  • Partïon coetir
  • Digwyddiadau tymhorol

Dyma’r Tîm

Y Bwrdd

Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau ein bwrdd ni am yr wybodaeth a’r profiad maen nhw’n eu rhannu efo ni i adfywio ein coetir cymunedol ni.


Vivienne Plank
Chair

Cathy Sands

Sara Spinks
Treasurer

Hello, name is Sara and I live locally to this beautiful woodland.

I joined LPMCWG Board in March 2023 because I passionately want to help to sustain it and help to secure it for the future.

I’m a recently retired headteacher who spent most of my career working in deprived, inner-city schools with children who had very limited experience of nature. I made it my mission to change this and built one of the first forest schools in UK on a scrap of waste ground, enabling children and their families to experience and benefit from being amongst trees and the emerging wildlife. It transformed lives.

LPM continues to work it’s magic on me most days as my husband and I walk around with our 2 dogs!

Richard Boyce
Rheolwr Gwaith Coetir

Richard yw perchennog Snowdonia Tree Services, a’i brif feysydd diddordeb yw coed, cadwraeth natur ac addysg natur. Mae’n dda gan Richard fod yn rhan o Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr, a dymuna gadw a chyfoethogi’r rhywogaethau sy’n bresennol yn LlPM.

A chanddo ddau fab ifanc, mae Richard yn awyddus i’w gweld nhw’n defnyddio LlPM fel lle ar gyfer mwynhau a dysgu am natur, gan ddod yn gyfeillion ag eraill yn LlPM. Datblygodd Richard ein cynllun ni i arddangos coed o ddiddordeb ac annog pobl i ddysgu rhagor am goed a’u hadnabod. Mae Richard yn byw yn Niwbwrch.

Hilary Cooke
Is-bwyllgor digwyddiadau a chogydd achlysuron cymunedol

Mae Hilary’n frwd iawn ynghylch natur a chad ar gyfer y dyfodol amgylchedd y mae hi’n ei fwynhau bob dydd. Mae Hilary’n caru garddio, cerdded, a hel a choginio bwyd yn yr awyr agored. Mae hi’n sieff, ac wedi gwirfoddoli i ddysgu pobl sut i goginio. Mae gan Hilary brofiad trefnu digwyddiadau ac y mae’n aelod o grŵp ceffylau lleol sy’n arfer ac yn dangos dull effaith fechan llusgo boncyffion gan geffylau. Mae Hilary’n byw’r drws nesaf i Lyn Parc Mawr.

Tim Peters

Tim yw’r Swyddog Amgylchedd Coetir. Mae gan Tim gefndir amrywiol iawn mewn garddwriaeth, amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac â diddordeb mawr mewn diogelu bioamrywiaeth a chynaliadwyaeth amgylcheddol. Ers symud i Niwbwrch mew wedi astudio ar gyfer gradd coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, gweithio mewn ymchwil amgylcheddol yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, a chwblhau Doethuriaeth mewn Ecoleg a Mycoleg Coedwigoedd. Y tu allan i’r gwaith mae’n arddwr, yn wenynwr ac yn fragwr cwrw a seidr brwd!


Sioned Williams


Dyma’r Staff!

Melissa Dhillon, Llyn Parc Mawr

Melissa Dhillon

Melissa yw Swyddog Addysg y Grŵp Coetir. Mae ganddi gariad a pharch mawr at natur a’r amgylchedd, ac yn mwynhau gweithio mewn coetiroedd yn fawr, ac ysbrydoli eraill i fod â diddordeb yn y byd naturiol ac i gysylltu â natur. Mae ganddi gymhwyster Graddfa 3 mewn Coedwigaeth Gymdeithasol, Ysgol Goedwig a Rheoli Gwirfoddolwyr. Mae wedi’i hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Awyr Agored, ac wedi cwblhau llawer o gyrsiau hyfforddiant eraill yn ystod y blynyddoedd ers cwblhau ei gradd mewn Seicoleg a Chymdeithaseg. Mae ganddi lawer o brofiad gweithio â phlant ac oedolion yn cynnal rhaglenni a phrosiectau Ysgol Goedwig a Choedwigaeth Gymdeithasol, ac wedi gwneud llawer o waith gwirfoddol efo grwpiau cymunedol, Cymdeithas y Sgowtiaid, a grŵp rhwydwaith Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Môn, lle mae hi’n ysgrifennydd y grŵp.

Niamh Boddington

Rhannu...