Newyddion

Sgrin adar newydd - Llyn Parc Mawr

Newyddion

Llyn Parc Mawr o’r awyr

Sgrin adar a byrddau gwybodaeth newydd

Yn ystod y ‘lockdown’, rydym wedi bod yn gwneud y gorau o’r nifer llai o ymwelwyr trwy gomisiynu Arfon Timber i adeiladu sgrin adar ar ochr bellaf y llyn. Byddwn hefyd yn gweithio ar wneud y sgrin adar hon yn hygyrch i’r rheini sydd   symudedd is.

Llyn Parc Mawr - bwrdd gwybodaeth newydd

Mae gwaith cwympo hefyd wedi digwydd yn ddiweddar, mewn ardal o Lyn Parc Mawr a oedd gynt yn anhygyrch oherwydd nifer y coed wedi cwympo. Cyn bo hir, bydd y pren a’r malurion yn cael eu symud, gan ganiat u inni ail-blannu’r ardal gyda chymysgedd o rywogaethau coed a ddewiswyd yn ofalus. Rydym yn edrych ymlaen at allu gwella’r ardal hon gyda gwirfoddolwyr a grwpiau yn ystod y misoedd nesaf, a byddwn yn gweithio ar greu llwybr trwy’r coetir a fydd yn creu llwybr crwn o amgylch y llyn.

Rydym wedi gosod byrddau gwybodaeth yn ardal y goedwig fforio ac o amgylch y pwll, a byddwn yn creu llwybr cregyn o amgylch y pyllau trochi.

Rydym hefyd wedi ychwanegu to byw o fywlys i’r sgrin adar.

Newyddion diweddaraf

Y ffordd gorau o gael y newyddion diweddaraf o Llyn Parc Mawr yw cysylltu gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol:

Cylchlythyr

Os hoffech chi danysgrifio i’n cylchlythyr, defnyddiwch y ffurflen danysgrifio isod, os gwelwch yn dda.

Archif newyddlenni

Er mwyn gweld newyddlenni’r gorffennol, cliciwch yma.

Rhannu...