Rheolaeth goedwigol

Gwiwer goch

Rheoli Coetir yn Llyn Parc Mawr

Hanes y safle

Ar hyn o bryd, mae GCCLlPM yn rheoli 24 hectar (tua) bloc coetir 60-hectar, o’r enw Llyn Parc Mawr.  Yn wreiddol, plannwyd yr ardal goetir hon gyda chymysgedd o goed meddal, yn bannaf pinwydd Corsica yn 1949.  Rwan, mae yna ystod eang o rywogaethau yn bressenol ar y safle yn gynnwyscoed a llwyni brodorol ac anfrodorol.  Y mae llawer ohonynt wedi dod i’r coedwig gan y gwynt, anifeiliaid, neu fodau dynol.  Mae helyg, bedw a gwern yn dominyddu ardaloedd gwlyb, ond mewn rhannau sychach o’r coetir fe welwch pinwydd, cedrwydd a ffynidwydd ochr yn ochr â ffawydd a derw.  Mae’r isdyfiant yn cynnwys mieri a’r cotoneaster ymledol Himalaya (Cotoneaster simonsii) yn ogystal â 49 o gennau, a 25 o rywogaethau brӱoffyt a gofnodwyd a nifer o rywogaethau planhigion prin eraill fel heleborine twyni (Epipactis dunensis). Llyn Parc Mawr oedd prosiect Comisiwn Cymru ar gyfer Blwyddyn yr Amgylchedd Ewropeaidd ym 1988, a wedi hynny, agorwyd y llyn gyda chuddfannau gwylio, ym mis Hydref 1988 gan y Marcwis Ynys Môn.

Presennol

Mae cyfansoddiad presennol y coetir yw oddeutu 61% conwydd (55% pinwydd, 6% conwydd arall), 20% llydandail cymysg, 15% ardaloedd agored a 4% a chwythwyd gan y gwynt. Fe’i defnyddir ar hyn o bryd ar gyfer hamdden a gwylio bywyd gwyllt gan bobl leol a thwristiaid ac fe’i rheolwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru nes i 2016, pan sicrwyd GCCLlPM cytundeb rheoli.

Ein cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol

Rheolir y coetir yr arfaethir iddo fod tan reolaeth Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr (GCCLlPM) at sawl amcan. Y prif amcan yw ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant, bioamrywiaeth, cynhyrchu pren ar raddfa fechan i’w ddefnyddio yn yr economi lleol, ac fel adnodd addysgol cymunedol.

Dros y 25 mlynedd nesaf daw’r coetir yn fwy amrywiol ei rywogaethau coed trwy blannu amrywiaeth o rywogaethau llydanddail brodorol ac Ewropeaidd a rhywogaethau conwydd estron. Erbyn 2040 bydd cyfansoddiad yr ardal yn ryw 55% conwydd (51% pîn, 4% conwydd eraill), 30% llydanddail cymysg a 15% tir agored. Bydd cynnydd 10% o goed llydanddail: 3.8% cyll, 1.8% castanwydd, 1.5% deri, 1.4% ffawydd ac 1.5% rhywogaethau eraill. Rheolir y rhan fwyaf o’r ardal fel coedwig uchel ran reolaeth coedwigaeth gorchudd di-fwlch. Ni fydd unrhyw gwympo llwyr ac ailblannu clytiau rhagor na 0.25 ha. Cedwir cymaint o’r gorchudd ag y bo modd, a bydd plannu rhywogaethau addas oddi tano er mwyn ffurfio gorchudd cryfach.  Bydd dwy goedlan o goed bychain wedi’u bondocio, dim rhagor na 0.25ha., o goed wedi’u bondocio ar gylch 15 i 20 mlynedd. Cyfoethogir y mannau hyn trwy blannu coed castan, deri digoes a chyll, ac fe’u rheolir fel coedlan â choed hirgyrff. Mae’r grŵp yn amcanu bod â llecyn o helyg plethu ar gyfer prosiectau crefft ar raddfa fechan.

Amcanion rheoli’r goedlan 

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol,
  • Cynyddu nifer haenau’r coed,
  • Cynyddu amrywiaeth fiolegol,
  • Cynyddu rhywogaethau coed,
  • Gwella cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau, gyda golwg neilltuol ar rywogaethau a warchodir ar raddfa Ewropeaidd
  • Cadw lefelau pinwydd yn unol â chanrannau y cytunwyd arnynt er budd cadwraeth gwiwerod cochion
  • Defnyddio cyfleoedd i gynnwys ysgolion a gwirfoddolwyr o’r gymuned ar gyfer plannu
  • Cynhyrchu coed tân yn fasnachol ar raddfa fechan ar gyfer y gymuned
  • Cynhyrchu pren ar raddfa fechan ar gyfer prosiectau yn y goedwig
  • Gwella mynediad ar gyfer pawb o bob gallu
  • Cadw cyfleoedd hamddena
  • Gwella cydgysylltedd y gorchudd
  • Datblygu’r coed yn adnodd addysgiadol
Rhannu...