Protestiadau lleol, amffibiaid prin ac ymweliad brenhinol
Darllen
Fel y mae Tony Mercer yn cofio, ’roedd y 1950au a’r 60au yn gyfnod gwrthdystio yn Niwbwrch, wrth i ddatblygiadau newydd yn y goedwig arwain at gau’r ffordd fynediad trwy’r goedwig â giât. Teimlai’r pentrefwyr fod eu hawliau lleol oesol i grwydro’r tir yn cael eu bygwth, a bu geiriau cryfion. Yn y pen draw, er mwyn osgoi rhagor o wrthdaro, cytunwyd y byddai goriad giât – ar gyfer pobl leol yn unig – yn datrys y broblem, ar gost o 20c y flwyddyn. Wrth gwrs, fel y dywed Tony, “Aeth y goriadau hynny i bocedi eraill na rhai lleol.”
Yr adeg honno, ’roedd chwe modur i lawr ym maes parcio’r traeth ganol yr haf yn ‘argyfwng’ ar gyfer pobl leol, gan ennyn ofnau ynghylch difrod i’r amgylchedd, gydag effaith ddrwg ar yr anifeiliaid a’r adar oedd yn byw yn y coed, a chynnydd perygl tân. Ac yr oedd yna lawer o greaduriaid y gallai crwydriaid diofal effeithio arnynt, o’r cwningod, llygod, llygod mawrion (a’r chwain), a chwistlod i’r amffibiaid a’r adar.
Cofia Tony am fynd am dro wrth y Pandy i gyfeiliant “synau coedwig drofannol, bron” cynifer o lyffantod yn paru. Ac ’roedd y twyni’n gynefin y llyffant melyn, â’i streipen felen denau, nodweddiadol i lawr ei gefn. Mae’r llyffant prin hwn yn llai na’r llyffant du, â choesau byrrach a galwad cras, uchel gan y gwryw. Ac ar Landdwyn, cofia Tony fel y defnyddid “cell oer” ar gyfer cadw cwningod a ddaliwyd gan ddynion a gyflogwyd i gadw’r niferoedd i lawr, mor lluosog oedden’ nhw. Ond darfu i bla mycsomatosis (salwch firaol) ladd cynifer o gwningod, fe newidiodd natur y twyni a’r goedwig, ac o ganlyniad bu diffyg bwyd rhad (ar gyfer pobl) ac ysglyfaeth (ar gyfer adar ac anifeiliaid).
Eto, parhaodd ymwelwyr i ddod i Niwbwrch a Llanddwyn – llawer i astudio amryw greigiau’r ynys, o fasalt clustog a siasber pinc i gornfaen a charreg galch, rhan o Gymhlygfa Mona. Cofia Tony sut yr arferai ynyswyr Llanddwyn godi dŵr i darddell naturiol a godai yng nghreigiau’r traeth, a sut yr adeiladwyd cwt drosti er mwyn ei diogelu. (Yr hanes oedd bod y dŵr yn dod yr holl ffordd o Gaernarfon, felly ’roedd ei flas yn wahanol i ddŵr Môn). O’r holl ymwelwyr, dau o’r rhai hynotaf, efallai, oedd y Dywysoges Margaret ac Anthony Armstrong-Jones, a ddaeth yno ar hofrennydd ar gyfer picnic preifat.
