Nid y meysydd glo! Tyllu wyau gwylanod a throwyntoedd
Darllen
Ganed Tom yn Swydd Tipperary yn Iwerddon, lle’r oedd ei dad yn amaethwr, a lle dechreuodd syniadau cynnar Tom ynghylch ei yrfa, mewn coedwig ystâd gyfagos o thua mil erw. Hoffai fynd yno ar bnawn Sul, gan wylio hyddod, ffesantod, moch daear a llwynogod. Gwelai Tom goedwigwyr yno’n aml, a thybiai yr hoffai un ai ffermio neu fod yn goedwigwr. Wedi gadael yr ysgol, cymerodd swydd ran-amser yn yr Adran Goedwigaeth: ond pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939, newidiodd ei gynlluniau, tros dro, gan ymuno â’r RAF yng Ngogledd Iwerddon. Fe’i rhyddhawyd ym 1947 ac aeth adref, gan ailafael yn y goedwigaeth, a dechrau fel coedwigwr tan hyfforddiant yn Nwyrain Anglia yn y goedwig fwyaf o waith dyn yn y DU.
Yna gyrrwyd ef i Gymru. Dywed Tom y gofynnwyd i bob myfyriwr wirfoddoli ar gyfer y swydd, ond ni wnaeth neb, gan ei gynnwys o. “Pan feddyliais am Gymru, meddyliais am feysydd glo De Cymru!” Yn dilyn tair blynedd (1951-1954) yng nghoed Colunwy (ar draws ffin Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn), trosglwyddwyd Tom i Goed dyfi. Fel yr esbonia: “Y traddodiad oedd symud coedwigwyr i gael profiad o ardaloedd a phobl newydd.”
Yn ystod blynyddoedd canlynol, cynyddodd profiad coedwigaeth Tom wrth iddo gael ei benodi i ardaloedd eraill. Daeth i Niwbwrch, o’r diwedd, ym 1980, pan oedd y goedwig yn rhagor na 30 oed. Cyflwynwyd hanes lleol iddo gan Bob Griffiths, a ddisgrifiodd sut mae gwynt o’r môr yn peri i’r tywod ennill ar y tir yn agos at Niwbwrch. Weithiau ni allai’r bws deithio ar y ffyrdd, hyd yn oed. Plannwyd moresg mewn gwely hadau ar hyd lan y môr er mwyn sefydlogi’r twyni, atal erydiad a thrwsio difrod.
Erbyn y 1980au ’roedd ad-dyfiant naturiol wedi dechrau, ac ’roedd yr amgylchedd yn fwy sefydlog gyda llwyni preniog, er y cofia Tom heriau cwningod yn tyllu ym mhobman a gwylanod yn nythu yn y twyni, lle y rheolwyd eu poblogaeth trwy dyllu wyau yn y nythod.
’Roedd Tom yn gyfrifol am waith coedwigaeth Môn, gan gyfarwyddo tîm o 16-18 o ddynion ledled Niwbwrch a Phentraeth. Cofia’r tro cyntaf yr aeth i lawr lôn y goedwig i’r traeth, fel y meddyliai ei fod yn “wefreiddiol!” Teimlai fod Niwbwrch yn arbennig, gan na ddisgwyliai pobl i goed dyfu o dan yr amgylchiadau agored hynny. “’Roedd fel petai’r gwyntoedd yn dod o bob cyfeiriad. Yn aml, câi erialau’r byngalo lle’r oeddem ni’n byw eu troi fel darnau o linyn.”
‘’Roedd diwrnod nodweddiadol fel Prif Goedwigwr yn cynnwys gwaith swyddfa beunyddiol, a ffensio, a gwaith ar adeiladu’r A55, lle’r oedd y dyletswyddau’n cynnwys neilltuo safleoedd a phlannu coed ac ymylon ffordd, er y deuid ag eginblanhigion yno o bell. Yn y goedwig, ’roedd cwympo’n golygu clirio llwyr yn hytrach na theneuo, er na thybiai Tom “y byddwn i erioed yn gwneud hynny. Arferwn fynd ar goll yn y goedwig oherwydd ei bod wedi newid – mae’n fyd gwahanol o’i glirio.”
Defnyddid offer llaw (ceibiau, sieflau, rhawiau) ar gyfer ffensio a chodi weiren bigog a rhwydi. ’Roedd sbwriel yn broblem ar y traeth, yn enwedig poteli gwydr. “’Roedd yn rhyfeddol, y pethau a ddeuent i mewn efo’r llanw!” Gwyliai ymwelwyr ar y traeth “yn mwynhau diwrnod cyfan ar y traeth, er na fentrent i Landdwyn yn aml oherwydd nad oedd llawer o gerddwyr yr adeg honno. Deuent ar gyfer y traeth, nid er mwyn mynd am dro yn y goedwig.”
