Straeon: Robert Griffith

Teirw dur, mynd mewn tractorau, a thwristiaid

Darllen

Llysenw parchus Robert ‘Robin’ Griffiths oedd ‘Mr Niwbwrch,’ gan mai ef oedd Prif Goedwigwr Coed Niwbwrch. Cafodd MBE ym 1977 ac y mae ei fab, Robin, yn rhannu atgofion o waith ei dad.

“Ganwyf ef ym 1917, yn un o saith o blant,” medd Robin. “Magwyd o yn Nolwyddelan a Betws y Coed, lle gweithiai fy nhaid yn y chwareli llechi. Gwelodd y gallai’r fath fywyd fod yn galed, a phenderfynodd fynd i’r Ysgol Goedwigaeth.”

Wedi’r cwblhau ei addysg, gyrrwyd Robert i Niwbwrch ym 1946 i sefydlu’r goedwig. I ddechrau, gwastataodd y Comisiwn Coedwigaeth y twyni â theirw dur, ac yna plannodd foresg. Bu’n rhaid iddo brofi pa goed dyfai gyflymaf, a arweiniodd at ddefnyddio pinwydden Corsica. “Crynhodd hyd at 50 o ddynion, a weithient mewn rhengoedd i blannu’r coed a sefydlu’r twyni,” meddai Robin. “’Roedd fy nhad wastad yn ymwybodol o greu gwaith ar gyfer pobl leol, a arweiniodd at gymuned gref, hefyd. ’Roedd yn Ysgrifennydd y clwb pêl-droed lleol hefyd, ac ’roedd llawer o’i weithwyr yn chwarae i’r tîm. ’Roedd yn bêl-droediwr da.”

Academydd oedd Robert, ond ’roedd ganddo ddawn annog pobl i fod â rhan mewn mentrau newydd fel y goedwig.  Fel y sylwa Robin, mae’n debyg mai sioc i rai o’r gymuned leol fu cael plannu coedwig ym mannau lle bu gan bobl, gynt, leiniau o dir a lle dalient gwningod. “’Roedd pobl wedi arfer â mynd lle fynnent, ac achosodd y cyfyngiadau wrthdaro, gan y teimlent mai eu ‘tir nhw’ oedd o.” Ac ’roedd peryglon yn y mannau newydd eu plannu, hefyd. “Ni chaniatawyd imi chwarae yn y twyni erioed, gan y barnai fy nhad y gallai’r tywod symudol fod yn beryglus,” cofia Robin. “’Roedd arna’i awydd mynd yn y lorïau (efo Ifor Williams) ac ar y tractorau, ac weithiau caniateid imi fynd efo Albert Jones, ac Owen Llew Williams.”

’Roedd coed yn dal i gael eu plannu yn y 1960au, efo criw o ryw 20 o ddynion, er y cofia Robin dristwch llai o waith ar gyfer y dynion lleol. Fodd bynnag, aed â phlant lleol ar deithiau addysgiadol i’r goedwig ac ar hyd y tywod: “A chyfrifem nythod gwylanod hefyd, ac un gyda’r hwyr cawsom hyd i ragor na 60 nyth yn llawn wyau!”

Wrth i’r ddegawd fynd rhagddi, ’roedd rhagor o dwristiaid yn mentro i’r goedwig a’r traeth, a achosodd rhai heriau personol i’r teulu. “’Doedd fy nhad fyth o gwmpas ar benwythnosau, gan y byddai ar ymwelwyr awydd cynnau tanau yn y goedwig neu gael picnicau ar y traeth.”

Âi Robert ag ymwelwyr o’r brifysgol o gwmpas y goedwig, hefyd, gan fentora pobl oedd am ddysgu rhagor amdani: ond ychwanega y gall na fyddai ei dad wedi cytuno â’r polisi presennol (2003) ynghylch y goedwig a’r traeth, sydd ar agor i ymwelwyr a cherddwyr. “Bu gan fy nhad ddiddordeb yn y goedwig a’r anifeiliaid, ac mae’n debyg mai gwell ganddo fyddai peidio â chaniatáu i bobl grwydro i unrhyw le, fel ag i ganiatáu i natur – yr anifeiliaid a’r planhigion – ddatblygu a ffynnu.”

Gwrando

Robert Griffith (1)
Robert Griffith (2)

Rhannu...