Gwartheg crwydrol, halen môr a gwylanod yn cymaru
Darllen
Wedi dysgu Rheoli Coedwigo yng Nghapel Curig, cafodd Peter Evans ei swydd gyntaf yn Niwbwrch ym 1958. Gyrrwyd ef i swydd arall ym 1962, a dychwelodd i Niwbwrch yn Goedwigwr Cynorthwyol (gan weithio tan Bob Griffiths) o 1969 hyd 1982.
Fel y cofia Peter, cyn plannu’r goedwig, fe borwyd y tir gan wartheg Owen Pritchard, Ty’n Rallt (a grwydrent cyn belled ag aber Malltraeth), ac fe’i defnyddiwyd gan y fyddin yn ystod y rhyfel.
Erbyn 1958, er y cwblhawyd plannu ochr ddwyreiniol y goedwig, ’roedd yr ochr orllewinol eto i’w phlannu, ac er mwyn paratoi’r tir cludodd y dynion docion ymyl y ffordd i’w “taenu fel croen ar y tywod.” Y flwyddyn ganlynol dechreuwyd plannu ar hyd ochr traeth Penrhos y goedwig, lle gwyntog, oer fel y cofia Peter: “’Roeddem ni yn nannedd y gwynt yno.”
Crëwyd ffensys i ddal y tywod ar y traeth. “Ffynidwydd oedd orau,”, meddai Peter. “Fe’i gosodwyd yn y tywod, ac wrth i’r gwynt godi’r tywod, byddai’r ffens yn atal ynni’r tywod ac yn ei ddal yn y ffensys.”
Plannwyd moresg hefyd, er mwyn sefydlogi’r twyni, ond rhaid oedd ei gadw draw o ddŵr y môr, felly plannwyd amdowellt (nad oedd â’r fath broblem) yn gyntaf er mwyn sefydlu troedle. O fewn dwy flynedd fe blannwyd yr ardal yn gyfan gwbl â choed, gan gwblhau’r cynllun plannu coedwig.
“Bu rhai heriau unigryw, gan gynnwys yr halen a’r tywod,” meddai Peter. “Bu inni dyfu ein heginblanhigion yn un o dair meithrinfa, o hadau a gasglwyd yn Ewrop. Plannid yr eginblanhigion dwyflwydd allan, ond ’doedd dim cysgod ar gyfer y coed ifainc, a byddai’r gwynt a’r halen yn eu profi ac yn ‘llosgi’r’ coed, gan roi lliw coch iddynt.”
Yn ychwanegol at y cwningod oedd yn bwyta’r eginblanhigion bychain (ac a ddaliwyd ac a saethwyd), problem arall oedd y 2,000 par o wylanod llwydion a heidiodd i’r ardal i nythu yno ym 1959. “’Roedd cymaint ohonynt, ’roeddent yn sathru’r eginblanhigion bychain.” Disgrifia Peter fel yr ymladdai’r gwrywod, hefyd, a gwneud arddangosfa o frigau cyn hedfan, neu gyflwyno’r fath frigau i’r benywod yn rhodd cymharu. Saethwyd nhw o bryd i’w gilydd, ond botwliaeth a dyfodiad llwynogod gafodd wared arnynt yn y diwedd.
Ymhen amser bu’n rhaid cynaeafu rhai coed. “Bu inni fesur a marcio’r coed, ac fe’u gwerthwyd i fasnachwyr. Prynodd Harry Hamer o Ddwyran lawer,” fel y cofia Peter. Cwympwyd y coed â llif gadwyn, yna llusgwyd nhw allan gan dractor neu geffylau, ac felly sefydlwyd cylch bywyd parhaus y goedwig.
