Straeon: Paul Whalley

Brecwast cwningen o waith dyn, gelod a chigfrain

Darllen

Cofia’r Dr Paul E. S. Whalley y meithrinwyd 30 miliwn o goed ifainc ym meithrinfeydd Coed Niwbwrch, gan ychwanegu mai anodd drybeilig fu penderfynu pa rywogaethau coed i’w defnyddio ar gyfer y goedwig. “Mae pinwydd Corsica wedi’i fewnforio o Sisili a De’r Eidal yn tyfu ar lan y môr, felly ’roedd siawns rhesymol y tyfai yn Niwbwrch, ac ystyriwyd pinwydd Monterey hefyd.”

’Roedd ardal y goedwig arfaethedig yn llawn twyni tywod a chwningod, ac er bod tyllau’r cwningod o gymorth i ddŵr ac awyr ymdreiddio i’r pridd, ’roeddent yn dinoethi gwreiddiau’r coed ifainc, hefyd. “Mae’r cwningod yn hoffi bwyta gwreiddiau rhai coed,” ychwanega Paul. “’Roedd coed ifainc llawn sudd yn frecwast o waith dyn iddynt pob diwrnod y deuent allan.” Codwyd ffensys gwrth-gwningod, a saethwyd yr anifeiliaid: ond ni fu erioed yn hollol lwyddiannus, oherwydd arweiniai cadw cwningod allan at drafferth â chwyn ymysg y coed ifainc.

I lawr ar lan y môr, ’roedd gangiau o ddynion yn plannu moresg yn ogystal â choed er mwyn sefydlogi’r ardal, am £100 o gost. Ym 1946 ’roedd gweithlu o 6 dyn; erbyn y 1950au ’roedd yn agosach at 40, fel y cofia Paul. Yn ystod 1948 a 1971, plannwyd rhwng 16 a 28 hectar yn flynyddol: “Gallai un dyn blannu tua 1,200 o goed y diwrnod, â 4.5 troedfedd rhyngddynt,” esbonia Paul.

Gellid gofyn: pam plannu coed ar dywod beth bynnag? Fel yr esbonia Paul: “’Roedd y manteision yn cynnwys llafur lleol, man agored, a mynediad cymharol rwydd. Defnyddid traciau treigl hyd nes yr adeiladwyd y lôn, ac ’roedd yna fynediad o lan y môr hefyd. Ar dir a ddisgrifiwyd, yn y dyddiau hynny, yn ‘ddiffeithdir’.”

Creodd plannu’r coed lawer o newidiadau, nid yn unig oherwydd gwahanol blanhigion ac anifeiliaid yn symud i mewn i’r goedwig, ond trwy guddio gwylfeydd blaenorol. “’Roedd hen daflen a grybwyllai y gallech ‘weld yr Wyddfa’ oherwydd ei bod ar garreg frig,” meddai Paul, “ond mae’r coed wedi tyfu cystal, allwch chi ddim gweld y mynydd rhagor!”

Fel yr esbonia Paul, mae’r holl ardal yn amrywiol iawn rŵan, gydag amgylchedd hollol wahanol yn y goedwig rhagor y twyni. “Y newid cynefin sydyn yw sut y mae’r goedwig hon yn effeithio ar fywyd gwyllt, a gallai fod ag effaith enfawr ar wahanol agweddau ohono. Cyn y plannwyd y coed ’roedd yna gudyllod bach a bodaod Montagu ac ehedyddion… rŵan mae yna’r fronfraith fawr a’r croesbig, ac adar sy’n byw mewn coed. Daeth y cigfrain i mewn yn raddol dros rhwng 10 a 15 mlynedd, a’u nifer yn cynyddu i haid o 1,800.”

Ychwanega fod yna bellach elen feddygol warchodedig mewn pwll yn y goedwig, ynghyd â thegeirianau prinion a ganfu well lle yn y goedwig nag yn y twyni, ynghyd â mieri ac eithin, a rhagor o ffyngau: “Ond yr hyn ’rydych yn ei golli yw llysiau’r Drindod s rhywogaethau ar gyfer y twyni.”

Terfyna: “Mae’n fangre Hanes Naturiol go iawn, a byddai’n resyn mawr pe cwympent nhw hi.”

Gwrando

Paul Whalley (1)
Paul Whalley (2)
Paul Whalley (3)
Paul Whalley (4)
Paul Whalley (5)
Paul Whalley (6)
Rhannu...