Tyrau yn Llyn Parc Mawr, a cheffyl yn y simdde – a’r dyfodol
Darllen
Martin Gould oedd Rheolwr Ardal Lleol Môn (gan gynnwys Coed Niwbwrch) o 1986 ymlaen, a’i ddyletswydd oedd diogelu a gwella’r bywyd gwyllt, gwella’r blychau ystlumod/adar er mwyn gwella’r cynefin, a sicrhau nad oedd y cwympo coed yn amharu ar fuddiannau llysiau ac adar. Dywed: “Tueddwn i feddwl am Niwbwrch fel ‘fy nghoedwig i’, lle arbennig iawn.”
Llyn Park Mawr fu’r prosiect cyntaf y bu ynglŷn ag ef, wedi’i greu ar gyfer Blwyddyn yr Amgylchedd Ewrop, er mwyn creu cynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt. Cwblhawyd cynllunio sylfaenol, a rhoddwyd i Martin waith cwympo coed a chrafu’r pridd allan hyd ddyfnder o ryw dair troedfedd. Fel y cofia: “’Roedd syniadau dechreuol yn cynnwys canolfan ymwelwyr a maes parcio, tŵr, caffi, a thŷ gofalwr, ond cynyddodd y costau, a’r hyn a gawsom oedd maes parcio, cuddfannau a llyn.”
Yn ystod y blynyddoedd, gwelodd Martin lawer o newidiadau yn y goedwig. Erbyn diwedd y 1980au, ni phlannwyd y moresg rhagor, ac ’roedd tywod yn cynyddu o’r traethau, gan greu traethellau tywod symudol. Yn dilyn proses naturiol, byddai’r tywod yn cael ei olchi allan wedyn, ac yn ôl i mewn pob ryw bum mlynedd. “Effeithiodd y cob ar dywod yr aber,” ychwanega Martin. “’Roedd Cefni’n ymddolennu ac yn golchi tywod allan. Pan godwyd y cob, sythwyd Cefni, gan atal tywydd rhag cael ei erydu allan i’r môr: felly rŵan mae tywod traeth Penrhos yn cynyddu yn aber Cefni.”
Mae natur wedi newid yn yr ardal. Cofia Martin ddigonedd o wiwerod cochion, er y canfu arolwg fod y ‘cochion’ ar i waered yn arw erbyn hynny. Ychwanega: “Gwelais fwyalchod wrth i’r bedw a’r helyg ddechrau datblygu. A daeth haid enfawr o groesbigau ymfudol un flwyddyn, ac yna mae yna’r bodaod tinwyn, sydd ag angen meysydd agored i hela ynddynt, a gylfinirod. Nid ymddangosodd rhai planhigion (fel gwyrdd y coed, a rhai mathau o laswellt) hyd wedi plannu’r goedwig.
Mae’r goedwig yn gartref i lwynogod, carlymod a gwencïod hefyd, sy’n rheoli poblogaeth y cwningod. Dywed Martin y bu hen chwedl nad oedd llwynogod ym Môn ar un adeg, hyd nes i goedwigwr ollwng llwynog anwes yn y goedwig. “Er, gall anifeiliaid groesi’r bont, a gwiwerod llwydion a llwynogod nofi’r Fenai, fel y tystia canŵ-wyr!”
Hoff ran hanesyddol Martin o’r goedwig yw’r Pandy, yr hen ffatri wlân. “’Roedd adeilad mawr wedi’i gladdu o dan y tywod. Hoffwn yn fawr weld ei gloddio. Un tro canfûm dwll yn y lôn, tuag 8’ o ddyfnder a 6” ogylch. Wedi codi tâp o’i amgylch, canfuom fod ceffyl wedi suddo i’r ffordd (ni frifwyd na’r ceffyl na’r marchog), a dangosodd ymchwiliad gan beirianwyr sifil mai ystafelloedd tŷ oedd yno, â’r aelwyd yn ei lle o hyd. ’Roedd y ceffyl wedi mynd trwy haen uchaf y ffordd i mewn i’r simdde.”
Erbyn dechrau’r 2000au, ’roedd nifer flynyddol yr ymwelwyr yn 100,000 ar gyfartaledd, ac ’roedd heriau newydd yn cynnwys problemau â fandaliaeth a thresmasu heb awdurdod, er y dywed Martin mai dim ond lleiafrif o bobl sy’n creu’r problemau. Ychwanega fod y goedwig yn lle cyhoeddus: “Rhaid inni gydymffurfio â’r hyn y mae’r cyhoedd yn ei ddymuno. Hoffwn feddwl y bydd hyd yn oed coedwigaeth yn gweithio tua chyflawni nodau cadwraeth, hamdden a thirweddu. Dechreuais weithio ymysg hen goedwigwyr, a chredaf na welir newid hyd nes y daw’r genhedlaeth nesaf i rym.”
