Straeon: Margaret Pritchard

Matiau eglwys, Y Cyrnol Cotton, a basged y Fam-frenhines

Darllen

Ganed y chwiorydd Rhiannon a Margaret Pritchard yn Nhy’n Pant. Buont fyw yn Niwbwrch gydol eu hoes, a chofiant yn eglur pan oedd moresg yn ddiwydiant lleol a ddeuai ag enillion.

“Bu gan bob dynes ei thwyn,” esbonia Rhiannon. Yn Awst mae’r gwragedd yn torri’r moresg, gan ddisgwyl iddo sychu cyn ei godi’n styciau, a hwyrach ymlaen yn ei gymryd adref i’w blethu ac i greu nwyddau.

Ychwanega Margaret: “Byddent yn mynd i’r twyni pob bore, a threulient y diwrnod yn torri’r moresg. Fe’i taenwyd ar y twyni i sychu yn yr heulwen – byddai un diwrnod poeth yn ddigon – yna gwnaent y styciau.”

Yna cludwyd y teisi tal hyn yn ôl i’r pentref â cheffyl a throl, a phlethai’r gwragedd y moresg yn blethiadau unigol, a wnïwyd at ei gilydd, wedyn, i lunio matiau (gan gynnwys y rhai hirion i’w rhoi dros y gwair a sychai yn y caeau), matiau llestri (o dan blatiau) a basgedi, rhwydi a rhaffau at ddefnydd.

“Cafodd y gwragedd geiniogau’r dydd (a’u bwyd) am gasglu a gweithio’r moresg”, ychwanega Margaret. “’roedd galw mawr amdanynt gan ffermwyr siroedd Caernarfon, Fflint a Dinbych, a defnyddiwyd rhai ym Miwmares a Llandysilio ar seddau’r eglwysi.”

Cofia’r chwiorydd sut y dysgwyd plethu moresg. “On’d oedd yna Mrs Williams a ddysgai blethu moresg? Ac oni chafodd y Fam-frenhines fasged – rhywbeth i’w wneud â Sefydliad y Merched, efallai?” A sut y cymerai eu tad y nwyddau plethedig i Ddeiniolen a Ffestiniog â cheffyl a throl , ac weithiau i’w gwerthu ym marchnad Caernarfon – eu cymryd ar draws ar y cwch pob dydd Sadwrn.” “Ac ’roedd y Cyrnol Cotton, a oedd yn byw yn Lôn Plas Newydd, yn eu casglu hwn hefyd,” ychwanega Rhiannon, gan bendroni a oedd o’n asiant yn eu casglu nhw i’w gwerthu.

Wedi cyfnod y diwydiant moresg, cynyddodd poblogaeth cwningod y twyni, gan greu ffynhonnell enillion arall. “’Roedd tŷ yng Nghwningar Mawr, ac arferai’r ffermwyr ddal cwningod cyn y plannwyd y goedwig, gan ddefnyddio maglau a gwerthu’r cig, gan wneud bywoliaeth yn enwedig yn ystod y rhyfel pan oedd cig yn brin.” 

Gwrando

Margaret Pritchard (1)
Margaret Pritchard (2)
Rhannu...