Straeon: Mairwen Hughes

Cwningar, y llathen Gymreig, a thro hir, hir

Darllen

Mae Mairwen Hughes, prifathrawes wedi ymddeol, yn byw yn Rhosmeirch yn ymyl Llangefni. Bu iddi ymchwilio i hanes ei theulu yng Nghwningar, yng Nghoed Niwbwrch, ac y mae’n rhannu rhai straeon hynod ddiddorol â ni.

“’Roedd teulu fy mam yn byw yng Nghwningar yn y 1850au,” meddai Mairwen. “Yr Aglwydd Boston oedd piau’r tir. ’Roedd fy nhaid yn ffermio Gwladys, Tir Capten, Tir Mawr, Ty’n Llidiart, a Thyddyn Bach, hefyd.”

Priododd Thomas Jones Catherine Rowlands, gan fagu pedwar o blant. Pan aeth ei thad i fyw â’r teulu daeth â dwy fuwch, dyniawed, tri mochyn, ac ieir. “’Doeddan’ nhw ddim yn dlawd, meddai Mairwen. “Mae cofnodion yn dangos bod gan y teulu, erbyn 1860-1881, geffyl a throl, gwartheg, defaid, gwyddau, chwïaid ac ieir, yn ychwanegol at blannu cnydau o datws a nionod.” Wedi golchi gwlân y defaid gwerthai’r teulu o yng Nghaernarfon, ac ’roeddent yn godro’r defaid: defnyddid llefrith y gwartheg i wneud menyn i’w werthu. Daliwyd a gwerthwyd cwningod hefyd; mae un cofnod o brynu 120 o faglau.

Dywed Mairwen sut, hyd 1815, ’roedd can erw o dir comin yn ardal Niwbwrch. Wedi’r cau, gweithiai teuluoedd cyfan yn y moresg er mwyn adennill yr arian a gollwyd am na fedrent ddal cwningod na thrin y tir yno. “Moresg dwyflwydd oedd orau”, cofia Mairwen. “Fe’i torrwyd yn Awst, a’i stycio i sychu – âi’n wyn, bron iawn – ac yna fe’i cludid i’r pentref i’w blethu’n fatiau ac yn fasgedi. Gallai’r gwragedd blethu a gwnïo mat pob diwrnod, wedi’i wneud o 65 plethiad o 11-13 cainc yr un, 4” o led ac wyth llathen Gymreig (40 modfedd, yn hytrach na 36) o hyd.”

Fel y cofia Mairwen o straeon ei mam, claddodd drycin Nadolig 1931 sawl tyddyn bach â thywod o’r traeth, y mwyafrif rhwng Llanddwyn a Niwbwrch. Yn eironig, y moresg, oedd yn darparu cyflog i bobl leol, oedd gynt (wedi gorchymyn o oes Elisabeth y Cyntaf yn gwahardd ei dorri) wedi tyfu’n doreithiog a sefydlogi’r twyni. Bu i Catherine, ei dwy ferch a’i thad farw o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd, gan adael y mab oedd yn weddill (taid Mairwen, Richard Jones) , a briododd Rebecca Jones o Falltraeth. ’Roeddent yn byw yn Rhedyn Coch, a magasant 11 o blant.

Dywed Mairwen y bu’n rhaid talu’r rhent, cyn i Rebecca brynu’r fferm ym 1912, i’r Eglwys yng Nghymru, i’r ficer ym Mhenrhos Llugwy.  “Ym 1720, rhoddwyd cymhorthdal y Frenhines Anne gan yr Eglwys i’r ficer ym Mhenrhos Llugwy oherwydd bod y cyflog mor isel ’roedd diffyg bwyd ar y teulu a’r plant yn newynu.”

Ac fel y dywed Mairwen ’roedd yn dro maith i dalu’r rhent. “Gadawai am 7 o’r gloch y bore, gan gerdded i Falltraeth ac yna i’r Lôn Bost, ac ar hyd y Cob Bach i Langefni. Oddi yno âi i fyny Saith Aelwyd i Rosmeirch, tros Fynydd Bodafon ac i lawr i dŷ’r eglwys.” Yno câi Richard baned o de a pheth bara i’w baratoi ar gyfer y daith hir yn ôl i Redyn Coch erbyn iddi nosi. Tro maith, yn wir!

Gwrando

Mairwen Hughes (1)
Mairwen Hughes (2)
Rhannu...