- This digwyddiad has passed.
Picnic yn y Parc, diwrnod o hwyl yn y coetir!
2 Awst 2024 @ 11:00 yb – 3:00 yh
Paciwch eich cinio ac estynnwch am eich esgidiau cryf am ddiwrnod o hwyl yn y coetir. Mae rhywbeth at ddant pawb, felly dewch a’ch teulu draw a phrofi yr hud yn yr awyr iach yn Llyn Parc Mawr ar Ynys Môn.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11am ond bydd y rhaglen o weithgareddau yn ailadrodd o 1pm ymlaen felly mae croeso i chi alw heibio drwy gydol y dydd – ’fyddwch chi ddim yn colli unrhyw beth! Bydd y digwyddiadau yn debygol o gynnwys hela trychfilod, sgiliau’r maes a choetir a hefyd teithiau tywys.
Mae’r digwyddiad yma’n cael ei drefnu a’i gynnal gan ein hyfforddeion ifanc anhygoel ni mewn partneriaeth â Choetir Cymunedol Llyn Parc Mawr. Am bythefnos, mae nhw wedi bod yn brysur ddysgu am gadwraeth, newid hinsawdd a dulliau ymarferol o reoli ein ecosystemau i amddiffyn ein bywyd gwyllt ar Ynys Môn. Felly dewch draw ar eu diwrnod diwethaf yn y cwrs i ddathlu hefo ni tra’n cael llawer o hwyl!
Archebwch le i’n helpu ni i wybod faint o bobl sy’n dod. https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/events/2024-08-02-picnic-yn-y-parc-diwrnod-o-hwyl-yn-y-coetir?fbclid=IwY2xjawEYeJ9leHRuA2FlbQIxMQABHSwLLkJ3Wfxkg31bzBoEjb5odUx5OggpM34lawf7p7vbdmTLvewBaIMlFg_aem_y8-DyMz5ucy7J-EK0uSAYA&utm_content=PANTHEON_STRIPPED&utm_medium=PANTHEON_STRIPPED&utm_name=PANTHEON_STRIPPED&utm_source=PANTHEON_STRIPPED
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond ni fydd pob un o’n hyfforddeion ni sy’n cynnal y diwrnod yn gwneud hynny. Os yw’n well gennych chi siarad Cymraeg, gofynnwch a bydd posib dod o hyd i rywun.
