Prentisiaethau, tanciau a dannedd grutiog
Darllen
Ganwyd a magwyd Hubert Edwards yn Niwbwrch, ac wedi gadael yr ysgol (yn 15 oed) dechreuodd weithio efo’r Comisiwn Coedwigaeth ym 1951. “’Roedd tua 50 o ddynion yn gweithio yn y goedwig,” cofia, “hogiau ifanc tua’r un oed â mi, gan fwyaf.”
“Byddem yn beicio neu’n cerdded o’r pentref am tua 7:30 – ’roedd yn ddiwrnod 8 awr a thalwyd £8 yr wythnos imi, a thâl ychwanegol am nifer y coed a blannwyd. Cawsom brentisiaeth o ryw chwech neu saith mis.”
Gweithiodd Hubert efo’r Comisiwn Coedwigaeth o 1951 hyd 1961, a byddai ei gydweithwyr weithiau’n trafod ei fod yn rhaid bod yna well swyddi. “Gadawodd un dyn (‘Len, Gallt y Rhedyn’) ac ymunodd â’r heddlu a daeth yn bennaeth yr Adran Ymholiadau i Droseddau.”
Gwaith cyntaf Hubert oedd paratoi man plannu’r moresg, a sefydlogi’r tywod fel y gellid plannu coed. “Mi es i efo f’ewyrth Owen Hugh Edwards i Fetws y Coed i gasglu’r brigau, a helpu’r dynion i’w taenu ar y tywod.”
Yn y diwedd ’roedd y ffensys tua 10 troedfedd o uchder, a chyda’r moresg byddent o gymorth i ddal y tywod yn ôl. “Ddaru nhw drïo defnyddio tarmac, unwaith,” cofia, “ond weithiodd o ddim, am nad oedd yn para. Y moresg weithiodd orau.”
Fe’i plannwyd â llaw efo rhawiau, gan ei drawsblannu o le’r oedd o fwyaf trwchus i lenwi mannau moelach. Parhâi’r plannu coed y tu ôl i’r ffensys, a chofia Hubert y defnyddid hen danc o’r fyddin i fynd lle na allai cerbydau eraill. “’Roedd yno am ryw chwe mis, ond costiai ormod, felly bu’n rhaid i ddynion wneud y gwaith wedyn – ’roedd yn waith caled iawn.”
Plannwyd yr eginblanhigion yn y pridd tywodlyd heb na gwrtaith na dŵr ychwanegol. “’Roedd gennym fag ar ein cefnau – fel sach postmon – a ddaliai dri eginblanhigyn yr un. Plannwyd yr eginblanhigion dair troedfedd ar wahân. Defnyddiem bolion i gadw’r plannu’n unionsyth. Aeddfedent hyd tua 10 troedfedd ymhen naw neu ddeg mis.”
’Roedd pabell yn lloches rhag y tywydd ac fe’i symudwyd wrth iddynt weithio mewn gwahanol fannau. “Yn ymyl y traeth, adeg cinio, âi’r tywod i bobman, hyd yn oed yn y brechdanau,” meddai Hubert.
Cofia gaeafau oerion, a thywydd poeth iawn yr haf. ’Roedd yr heulwen gynnes yn denu ymwelwyr, ac weithiau aent yn sownd yn y tywod dwfn. “Defnyddiai ‘Johnny Mac’ o Benmachno beiriannau i dynnu ymwelwyr o’r tywod pan aent yn sownd,” cofia Hubert. “Dros eu crogi, wnaen’ nhw ddim gwrando ar rybuddion!”
