Straeon: Albert Edwards

Beic Bantam, tywod a phyg

Darllen

Mae gan Albert Edwards hen gysylltiadau teuluol yn Niwbwrch a Malltraeth. Gadawodd ysgol yn 14 oed, a gwerthai gabaits, moron a gwair yn Nhy’n Llidiart. Roddodd y gorau i amaethu yn y pen draw, a gweithiai i Jones Brothers ym Bangor.

Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hynny, ’roedd Llanddwyn yn denu ymwelwyr, a chofia Albert Nel (a oedd yn byw ym mythynnod gwylwyr y glannau) yn cludo cyflenwadau i Landdwyn ar hyd Lôn Llanddwyn mewn trol, neu ferlen neu ful â chewyll ar y lôn newydd; âi ei frawd â nwyddau drosodd hefyd, efo ceffyl neu ful. ’Roedd y tai eraill ar Landdwyn yn cynnwys tŷ’r peilot, ac ’roedd gan Gordon Richards o Gaernarfon (Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon) ganiatâd i ddod drosodd ar gwch.

Dechreuodd gyrfa Albert yn y goedwig ym 1950 gyda chwympo coed (er nad oedd yn frwdfrydig iawn, “ond yr oedd o’n waith”), efo criw o ddynion eraill o dan y Coedwigwr Cynorthwyol Robinson. ’Roedd y criw’n cynnwys John Williams, Gwilym Williams, John Thomas, a Hugh Ty’n Rhos. Âi’r gwaith rhagddo ym mhob tywydd: “hyd yn oed yn y glaw, a’r gwaethaf oedd nad oedd yna loches yr adeg honno.”

’Roedd gwaith yr haf cyn cynnwys torri chwyn a glaswellt o gwmpas y coed ifainc, hefyd, i’w hatal nhw rhag cael eu llethu. Cofia fel y rhoddi tocion ymylon ffyrdd o gwmpas y twyni tywod wrth lan y môr “i ddal y tywod i lawr, yn enwedig yn erbyn y gwyntoedd,” a thorrid glaswellt a dyfid ar dir y Goedwigaeth yn ymyl Llangefni ar y twyni symudol, hefyd.

Pan symudodd Albert at weithio’n glerc mewn swyddfa (1952-1960), marchogai feic modur  Bantam at y swyddfa yn Llangefni; ’roedd gwŷr lleol, gan gynnwys Robert Griffiths o Niwbwrch a Robert Davies, yn goedwigwyr.

Dychwelodd i’r goedwig yn ddiweddarach, gan arolygu gweithwyr a blannai goed ifainc (pinwydd Corsica’n bennaf, wedi’u meithrin mewn meithrinfeydd lleol) a moresg er mwyn sefydlogi’r ardal. Cofia un ymgais i “chwistrellu math o byg ar draws y tywod i’w atal rhag symud – ond ni allai neb gerdded arno, oherwydd y torrai ac y gwnâi hi’n waeth. Felly dyna arbrawf a fethodd!” 

Wedi cau’r meithrinfeydd, deuid â’r coed ifainc yno mewn pacedi, yn barod i’w plannu. Cofia Albert y plannwyd coed sycamorwydd a chastan, ynghyd â rhai deri a ffawydd coprog, a choed ceirios yr helid eu ffrwythau gan blant y pentref i’w gwerthu er mwyn ennill arian poced.

Gwrando

Albert Edwards (1)
Albert Edwards (2)
Albert Edwards (3)
Rhannu...