SCFH, ACAau a gwiwerod
Darllen
Jonathan Levell oedd y Coedwigwr Ardal a oedd yn gyfrifol am y plannu yn ardal 40,000 hectar Coed y Mynydd. ‘’Roedd y tîm yn gyfrifol am raglenni cynllunio, plannu, cwympo llwyr a theneuo, prosiectau hamdden, cadwraeth a’r amgylchedd.
Cofia sut yr oedd gan yr holl elfennau gwahanol effaith unigol ar ei gilydd, a sut y’i crynhowyd ynghyd yn y Cynllun Coedwig a elwid, yn anffurfiol, yn ‘lyfr glas’.
“Yn y 1990au, ’roedd yn amlwg iawn fod ein coedwigoedd yn unffurf iawn o ran patrwm ac amrywiaeth rhywogaethau, ac yn eithaf geometrig eu ffurf ar y dirwedd,” esbonia Jonathan. “Felly bu inni benderfynu ceisio ail-ddylunio’r holl goedwigoedd ar dir ym mherchnogaeth Menter Coedwigaeth, a cheisio rhoi iddynt ffurfiau mwy organaidd sy’n gweddu’n well â’r dirwedd, fel na chewch chi glwt sgwâr ar y llethr.”
Ychwanega mai dau gynllun pwysig oedd sut i lwyr gwympo rhai ardaloedd neilltuol, ynghyd â chynllun ailstocio, tros gyfnod o 20-30 o flynyddoedd: “Fel y cawn wahanol ardaloedd o’r goedwig, gwahanol oedrannau a chynefinoedd ac uchderau coed. Dymunwn roi’r gorau i gwympo llwyr oherwydd ei effaith fawr ar yr amgylchedd, a newid at ddefnyddio math arall o reolaeth, y systemau coedamaeth fach ei heffaith (SCFH). Pa rywogaeth o goeden ydym ni am ei rhoi yn ôl yno? Dymunwn fod yn sicr, os ydym yn defnyddio rhywogaethau collddail ymysg rhai bytholwyrdd, y cawn y ffurf yn iawn fel ei fod yn cydweddu â’r dirwedd.”
Esbonia Jonathan pam y bernid fod coedwig Niwbwrch yn “un o’r rhai mwy cymhleth.” “Yn sylfaenol, fe’i plannwyd yno er mwyn sefydlogi’r system twyni tywod a diogelu’r pentref rhag rhagor o dywod chwyth. Ymhen amser, newidiodd yr amcanion hynny i gynnwys materion cadwraeth, economaidd ac amgylcheddol, a statws amgylcheddol newydd y goedwig fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).”
Gyda phrisiau pren yn gostwng, ’roedd sylw’n troi tua’r goedwig megis ardal hamdden. Efo rhagor na chwarter miliwn o bobl yn ymweld â’r ardal, ’roedd effaith economaidd ddichonol pobl yn gwario arian yn y siopau, yn aros mewn gwely a brecwast, ac yn ymweld â’r mwynderau lleol. Ac ychwanega Jonathan y bu’r wiwer goch yn elfen bwysig arall. “Bu inni geisio eu hailgyflwyno i’r goedwig. ’Roeddem yn gobeithio y byddai rhaglen ailgyflwyno’r wiwer goch yn llwyddiant, ond bu inni gamu’n raddol i ddechrau. Ac ’roedd yna’r nythfa gigfrain bwysig, hefyd, un o’r mwyaf yng ngogledd Cymru.”
’Roedd cael gwared ar goed yn ystyriaeth arall. “Bu inni ystyried cael gwared ar rai o’r coed ar hyd yr ymyl de-ddwyreiniol, yn nesaf at y gwningar. Edrychodd ymchwil yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf ar effaith y goeden ar y lefel trwythiad, ac awgrymodd fod holl rwydwaith llif dŵr y goedwig a’r gwningar yn eithaf ynysig, efallai, a bod perthynas rhwng y goedwig a sychu’r llaciau twyni.”
Gan edrych tua’r dyfodol, dychmyga Jonathan goedwig ag ardal agored ar hyd y tu blaen ac ar hyd yr ochr nesaf at y gwningar er mwyn helpu’r twyni tywod, a pharth trawsnewidiol rhwng craidd y goedwig a’r twyni tywod. Yn y craidd hwnnw ni fyddwn yn canlyn polisi cwympo llwyr, bellach. Terfyna: “’Does dim yn ddigyfnewid. Mae yna adeg gyffrous iawn o’n blaenau.”
