Straeon: Chris Griffiths

Twyni glan môr, gaeafdai ac adnewyddu llyn

Darllen

’Roedd Chris Griffiths yn gyfrifol am goedwigoedd yn Niwbwrch, Pentraeth, Penllyn a Beddgelert yn ystod y 1980au.

Cofio y bu angen amddiffyn y coed ifainc, yn ystod blynyddoedd cynnar y goedwig, rhag eu boddi gan dywod a’r môr trwy osod dwy neu dair milltir o ffensio glan môr uwchlaw’r penllanw, ond nid yn rhy bell i mewn i’r goedwig. “Amrwd oedd y ffensys,”, meddai. “Wedi’u codi yn Hydref/Tachwedd, ’roeddent yn bolion tua 12-15 troedfedd o uchder, wedi’u gwthio i’r tywod, a’r lle rhyngddynt wedi’i lenwi â brwgaits.”

Wedi blwyddyn neu ddwy byddai’r tywyod yn pentyrru yn erbyn y ffensus, gan greu twyni o waith dyn. Yna codi’r tîm ffens frwfaits arall uwchlaw’r rhai gwreiddiol, ac felly ymlaen hyd nes yr oedd y polion wedi’u gorchuddio hyd eu pennau â thwyni hir, uchel a waith dyn.

Er mwyn helpu sefydlogi’r tywod oedd eisoes yn y goedwig, trefnodd Bob Griffiths (dim perthynas i Chris) godi tocion glaswellt gan griwiau cynnal a chadw ymylon y ffyrdd i’w ddefnyddio i “doi” am y tywod symudol. Fe weithiodd, a daeth â llawer o rywogaethau eraill o blanhigion i’r goedwig, a allasai fod o gymorth i greu’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Fel y dywed Chris: “’Roedd yn y goedwig rŵan blanhigion na ddylent fod yno, yn ddamcaniaethol.”

Daeth Chris yn arweinydd tîm prosiect ar gyfer prosiect coedwig newydd ym 1986/7 – creu llyn gwneud Llyn Parc Mawr. Bwriedid i hwn fod yn gyfraniad Cymru tua Blwyddyn Ewropeaidd yr Amgylchedd 1987-1988.

Agorwyd pedwar twll treiddio ar y pedwar hectar o dir a arfaethwyd ar gyfer y llyn, er mwyn cadw golwg ar lefelau dŵr. “Syndod inni fu gweld bod dŵr yn y tyllau treiddio gydol y flwyddyn, ar amryw lefelau. Dechreusom greu’r llyn yn Ionawr 1988, gan ddarfod erbyn Mawrth 1988. ’Roedd pobl yn meddwl ein bod ni o’n coeau!”

Fel yr esbonia Chris, crëwyd y llyn gan symud ymaith 43,000 medr ciwbig o dywod. “Problem fawr fu cael gwared arno”, meddai. “Felly dyma ni’n cwympo rhenciau o goed ac yn llenwi’r lleoedd â thywod er mwyn creu twyni o waith dyn.”

Yn ogystal â llwybr cerdded o gwmpas glan y môr (o olwg yr adar), ’roedd y prosiect yn cynnwys dwy guddfan a gaeafdy (blwch ystlumod). Ychwanega Chris nad oedd dim yn y dŵr i ddenu adar a bywyd gwyllt, felly prynwyd rhagor na 40 belen o wair gan amaethwyr lleol ac fe’u plannwyd mewn tyllau a agorwyd yng ngwaelod y llyn, pan oedd yn sych, er mwyn sbarduno proses creu rhyw fath o fwyd ar gyfer bywyd gwyllt. “Fe weithiodd, a nythodd adar yn y tymor cyntaf.”

Gwrando

Chris Griffiths (1)
Chris Griffiths (2)
Rhannu...