Cymuned ffyniannus, siopa lleol – ac ymwelwyr brenhinol
Darllen
Mae Morwenna Owen wedi byw gydol ei 56 mlynedd yn Niwbwrch, ac yn ei hystyried ei hun yn ffodus o gael “ei gennu a’i magu yn y gymuned hyfryd hon,” gan ddweud iddi dreulio’r “rhan fwyaf o’n plentyndod ar y traeth ac yn y goedwig.”
Fel yr esbonia, dyna’r oes cyn cyfrifiaduron, gemau fideo a ffonau symudol, felly’r oedd plant yn chwarae y tu allan, ac â llawer o ryddid; adeg haf poeth eithriadol 1976, bu iddi “ymfudo i’r traeth, yn llythrennol!” Ar benwythnosau â’i thad â’r teulu i’r traeth yn y fan. “Cyn gynted ag y bu inni gyrraedd ymyl y goedwig, byddai yna deuluoedd yn cerdded, plant mewn coetsis cadair a byddai pawb yn cael pas. ’Roedd yn gymuned enfawr!”
’Roedd “dipyn o fynd” yn nhad Morwenna; “’roedd pawb yn ei nabod,” ac fe’i gelwid o yn “Yogi” gan ei gyd-goedwigwyr – tipyn callach na’r arth gyffredin. Anogwyd o i fynd i brifysgol, ond ’roedd ar ei fam angen y cyflog ar gyfer y teulu. “Hyd yn oed pan oedd yn 75 oed, daliai i siaradai am y diwrnod hwnnw fel un tristaf ei fywyd, ynghyd â’r diwrnod y collodd o ei fam.”
Fodd bynnag, canfu ei thad fod gweithio yn y goedwig yn gyfnod dedwydd, gan weithio â dynion o bob oed. Ond ’roedd yn waith caled – plannu coed ifainc, agor ffosydd draenio a dyfrio, plannu’r moresg, hyd yn oed yn yr eira. Cyneuai’r dynion danau mewn drymiau i gadw’n gynnes, ond ’doedd dim cyfleusterau yno. Ymgasglent yn y pentref i gyd-gerdded i’r goedwig: “cymerai awr dda neu awr a hanner i gerdded yno, ym mhob tywydd.”
’Roedd y goedwig yn gyflogwr mawr. “’Roedd pawb ’roeddem ni yn ei adnabod yn gweithio yn y coed mewn rhyw fodd. O bob oedran, â gwahanol swyddi, a daethai â phres i’r pentref. ’Roedd dwy siop sglods, dau roser, dau gigydd, garej go iawn efo petrol. Awn i siop Norman, efo bag yng ngwaelod y goets babi, i gael caraits rhydd, tatws rhydd, caws wedi’i dorri a’i lapio mewn papur llwyd, cig moch yr un fath.”
Yn y diwedd, ddechrau’r 1970au, aeth y gwaith coedwigaeth ar i waered, a symudodd tad Morwenna at waith arall. “Ond ’roedd wastad yn hoff o Landdwyn, hyd ddiwrnod ei farwolaeth.” Hyd at ganol y 1980au, ’roedd gŵr Morwenna’n gweithio yn y goedwig, hefyd, yn teneuo coed: “yn cwympo’r coed ’roedd fy nhad wedi’u plannu!”
Fel y dywed Morwenna, mae’r traeth wedi newid yn syfrdanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf [ddechrau’r 2000au], gydag erydu’r twyni gan y drycinoedd garw diweddar. “Ond os soniwch wrth genhedlaeth hŷn y pentref, gallant gofio adegau pan fyddai’r tywod yn chwythu i mewn i’r tŷ. Dyna rywbeth na welais i erioed, a dwi’n meddwl mai’r coed a’r twyni tywod a’r moresg sy’n gyfrifol.”
Cyfarfu â rhai ymwelwyr brenhinol yn y coed yn ddiweddar, a darfu iddynt ddweud: “Dyma’r lle gorau oll, fuom ni erioed yn ddedwyddach na phan fuom ni’n byw yma.” Ac fel y dywed Morwenna: “Ein gardd gefn ni yw hon, ac alla’i ddim dychmygu – o edrych ar y goedwig rŵan – beidio â gweld yr un goeden yno.”
Gwrando
Dim ffeil awdio ar gael ar hyn o bryd
