Cysylltu

Cysylltu

Cael hyd inni

Llyn Parc Mawr yw’r coetir rhwng Niwbwrch a Malltraeth ar yr A4080, ar yr ochr dde os ydych chi’n dod o ben Niwbwrch. Dyma’r cyfeirnod grid – SH413670. Dyma leoliad what3words – ///regaining.happily.bloomers

O’r A55 (tua’r gorllewin) dewch i ffwrdd ar gyffordd 8A i’r A5 am tua 150metr, yna trowch i’r chwith i’r A4080 a pharhau am tua 15milltir i bentref Niwbwrch. Parhau drwy’r pentref i gyfeiriad Malltraeth. Pan welwch y goedwig ar ddwy ochr y ffordd, arafwch, a chymerwch y troad i’r dde sydd ag arwydd Llyn Parc Mawr.

O’r A55 (tua’r dwyrain) gadewch ar gyffordd 6 ac ewch i’r dde wrth y gylchfan, yna syth drosodd ar y gylchfan nesaf ar yr A5 i gyfeiriad Pentre Berw. Parhewch am tua 2 filltir yna trowch i’r dde tuag at Niwbwrch ar y B4421. Parhewch trwy Langaffo, ac ymlaen i Niwbwrch. Trowch i’r dde pan gyrhaeddwch y gyffordd T. Dilynwch y ffordd allan o Niwbwrch, a phan welwch goedwig ar y ddwy ochr i’r ffordd arafwch a chymerwch y troad i’r dde sydd ag arwydd Llyn Parc Mawr.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Cael eich ffordd o gwmpas Llyn Parc Mawr

Cysylltu â Llyn Parc Mawr

Os hoffech chi gysylltu, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod, os gwelwch yn dda.

    Rhannu...