{"id":1871,"date":"2020-03-27T14:30:56","date_gmt":"2020-03-27T14:30:56","guid":{"rendered":"http:\/\/llynparcmawr-org.stackstaging.com\/stories-tom-carter\/"},"modified":"2020-07-29T13:48:38","modified_gmt":"2020-07-29T12:48:38","slug":"straeon-tom-carter","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/straeon-tom-carter\/","title":{"rendered":"Straeon: Tom Carter"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Nid y meysydd glo! Tyllu wyau gwylanod a throwyntoedd<\/h2>\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-caxton-grid relative\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-columns caxton-grid-block\" style=\"padding-top:0;padding-left:0;padding-bottom:0;padding-right:0;grid-template-columns:repeat(12, 1fr)\" data-tablet-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\" data-mobile-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\">\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 8\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darllen<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ganed Tom yn Swydd Tipperary yn Iwerddon, lle\u2019r oedd ei dad yn amaethwr,\na lle dechreuodd syniadau cynnar Tom ynghylch ei yrfa, mewn coedwig yst\u00e2d\ngyfagos o thua mil erw. Hoffai fynd yno ar bnawn Sul, gan wylio hyddod,\nffesantod, moch daear a llwynogod. Gwelai Tom goedwigwyr yno\u2019n aml, a thybiai\nyr hoffai un ai ffermio neu fod yn goedwigwr. Wedi gadael yr ysgol, cymerodd\nswydd ran-amser yn yr Adran Goedwigaeth: ond pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939,\nnewidiodd ei gynlluniau, tros dro, gan ymuno \u00e2\u2019r RAF yng Ngogledd Iwerddon.\nFe\u2019i rhyddhawyd ym 1947 ac aeth adref, gan ailafael yn y goedwigaeth, a dechrau\nfel coedwigwr tan hyfforddiant yn Nwyrain Anglia yn y goedwig fwyaf o waith dyn\nyn y DU.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yna gyrrwyd ef i Gymru. Dywed Tom y gofynnwyd i bob myfyriwr wirfoddoli\nar gyfer y swydd, ond ni wnaeth neb, gan ei gynnwys o. \u201cPan feddyliais am\nGymru, meddyliais am feysydd glo De Cymru!\u201d Yn dilyn tair blynedd (1951-1954)\nyng nghoed Colunwy (ar draws ffin Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn),\ntrosglwyddwyd Tom i Goed dyfi. Fel yr esbonia: \u201cY traddodiad oedd symud\ncoedwigwyr i gael profiad o ardaloedd a phobl newydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod blynyddoedd canlynol, cynyddodd profiad coedwigaeth Tom wrth iddo gael ei benodi i ardaloedd eraill. Daeth i Niwbwrch, o\u2019r diwedd, ym 1980, pan oedd y goedwig yn rhagor na 30 oed. Cyflwynwyd hanes lleol iddo gan Bob Griffiths, a ddisgrifiodd sut mae gwynt o\u2019r m\u00f4r yn peri i\u2019r tywod ennill ar y tir yn agos at Niwbwrch. Weithiau ni allai\u2019r bws deithio ar y ffyrdd, hyd yn oed. Plannwyd moresg mewn gwely hadau ar hyd lan y m\u00f4r er mwyn sefydlogi\u2019r twyni, atal erydiad a thrwsio difrod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Erbyn y 1980au \u2019roedd ad-dyfiant naturiol wedi dechrau, ac \u2019roedd yr amgylchedd yn fwy sefydlog gyda llwyni preniog, er y cofia Tom heriau cwningod yn tyllu ym mhobman a gwylanod yn nythu yn y twyni, lle y rheolwyd eu poblogaeth trwy dyllu wyau yn y nythod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2019Roedd Tom yn gyfrifol am waith coedwigaeth M\u00f4n, gan gyfarwyddo t\u00eem o\n16-18 o ddynion ledled Niwbwrch a Phentraeth. Cofia\u2019r tro cyntaf yr aeth i lawr\nl\u00f4n y goedwig i\u2019r traeth, fel y meddyliai ei fod yn \u201cwefreiddiol!\u201d Teimlai fod\nNiwbwrch yn arbennig, gan na ddisgwyliai pobl i goed dyfu o dan yr amgylchiadau\nagored hynny. \u201c\u2019Roedd fel petai\u2019r gwyntoedd yn dod o bob cyfeiriad. Yn aml, c\u00e2i\nerialau\u2019r byngalo lle\u2019r oeddem ni\u2019n byw eu troi fel darnau o linyn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2018\u2019Roedd diwrnod nodweddiadol fel Prif Goedwigwr yn cynnwys gwaith\nswyddfa beunyddiol, a ffensio, a gwaith ar adeiladu\u2019r A55, lle\u2019r oedd y\ndyletswyddau\u2019n cynnwys neilltuo safleoedd a phlannu coed ac ymylon ffordd, er y\ndeuid ag eginblanhigion yno o bell. Yn y goedwig, \u2019roedd cwympo\u2019n golygu clirio\nllwyr yn hytrach na theneuo, er na thybiai Tom \u201cy byddwn i erioed yn gwneud\nhynny. Arferwn fynd ar goll yn y goedwig oherwydd ei bod wedi newid &#8211; mae\u2019n fyd\ngwahanol o\u2019i glirio.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Defnyddid offer llaw (ceibiau, sieflau, rhawiau) ar gyfer\nffensio a chodi weiren bigog a rhwydi. \u2019Roedd sbwriel yn broblem ar y traeth,\nyn enwedig poteli gwydr. \u201c\u2019Roedd yn rhyfeddol, y pethau a ddeuent i mewn efo\u2019r\nllanw!\u201d Gwyliai ymwelwyr ar y traeth \u201cyn mwynhau diwrnod cyfan ar y traeth, er\nna fentrent i Landdwyn yn aml oherwydd nad oedd llawer o gerddwyr yr adeg\nhonno. Deuent ar gyfer y traeth, nid er mwyn mynd am dro yn y goedwig.\u201d <\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 4\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwrando<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-audio\"><audio controls src=\"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/Tom-Carter-2.mp3\"><\/audio><figcaption>Tom Carter (1)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-audio\"><audio controls src=\"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/Tom-Carter-3.mp3\"><\/audio><figcaption>Tom Carter (2)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-audio\"><audio controls src=\"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/Tom-Carter-4.mp3\"><\/audio><figcaption>Tom Carter (3)<\/figcaption><\/figure>\n<\/div><\/div>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid y meysydd glo! Tyllu wyau gwylanod a throwyntoedd<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-fullwidth.php","meta":{"_EventAllDay":false,"_EventTimezone":"","_EventStartDate":"","_EventEndDate":"","_EventStartDateUTC":"","_EventEndDateUTC":"","_EventShowMap":false,"_EventShowMapLink":false,"_EventURL":"","_EventCost":"","_EventCostDescription":"","_EventCurrencySymbol":"","_EventCurrencyCode":"","_EventCurrencyPosition":"","_EventDateTimeSeparator":"","_EventTimeRangeSeparator":"","_EventOrganizerID":[],"_EventVenueID":[],"_OrganizerEmail":"","_OrganizerPhone":"","_OrganizerWebsite":"","_VenueAddress":"","_VenueCity":"","_VenueCountry":"","_VenueProvince":"","_VenueState":"","_VenueZip":"","_VenuePhone":"","_VenueURL":"","_VenueStateProvince":"","_VenueLat":"","_VenueLng":"","_VenueShowMap":false,"_VenueShowMapLink":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1871","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1871","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1871"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1871\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2394,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1871\/revisions\/2394"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1871"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}