{"id":1868,"date":"2020-03-27T13:54:32","date_gmt":"2020-03-27T13:54:32","guid":{"rendered":"http:\/\/llynparcmawr-org.stackstaging.com\/stories-mairwen-hughes\/"},"modified":"2020-07-24T12:33:26","modified_gmt":"2020-07-24T11:33:26","slug":"straeon-mairwen-hughes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/straeon-mairwen-hughes\/","title":{"rendered":"Straeon: Mairwen Hughes"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Cwningar, y llathen Gymreig, a thro hir, hir<\/h2>\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-caxton-grid relative\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-columns caxton-grid-block\" style=\"padding-top:0;padding-left:0;padding-bottom:0;padding-right:0;grid-template-columns:repeat(12, 1fr)\" data-tablet-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\" data-mobile-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\">\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 8\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darllen<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Mairwen Hughes, prifathrawes wedi ymddeol, yn byw yn Rhosmeirch\nyn ymyl Llangefni. Bu iddi ymchwilio i hanes ei theulu yng Nghwningar, yng\nNghoed Niwbwrch, ac y mae\u2019n rhannu rhai straeon hynod ddiddorol \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;\u2019Roedd teulu fy mam yn byw yng Nghwningar yn y 1850au,&#8221;\nmeddai Mairwen. &#8220;Yr Aglwydd Boston oedd piau\u2019r tir. \u2019Roedd fy nhaid yn\nffermio Gwladys, Tir Capten, Tir Mawr, Ty&#8217;n\nLlidiart, a Thyddyn Bach, hefyd.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Priododd Thomas Jones Catherine Rowlands, gan fagu pedwar o blant. Pan\naeth ei thad i fyw \u00e2\u2019r teulu daeth \u00e2 dwy fuwch, dyniawed, tri mochyn, ac ieir.\n\u201c\u2019Doeddan\u2019 nhw ddim yn dlawd, meddai Mairwen. \u201cMae cofnodion yn dangos bod gan\ny teulu, erbyn 1860-1881, geffyl a throl, gwartheg, defaid, gwyddau, chw\u00efaid ac\nieir, yn ychwanegol at blannu cnydau o datws a nionod.\u201d Wedi golchi gwl\u00e2n y\ndefaid gwerthai\u2019r teulu o yng Nghaernarfon, ac \u2019roeddent yn godro\u2019r defaid:\ndefnyddid llefrith y gwartheg i wneud menyn i\u2019w werthu. Daliwyd a gwerthwyd\ncwningod hefyd; mae un cofnod o brynu 120 o faglau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywed Mairwen sut, hyd 1815, \u2019roedd can erw o dir comin yn\nardal Niwbwrch. Wedi\u2019r cau, gweithiai teuluoedd cyfan yn y moresg er mwyn\nadennill yr arian a gollwyd am na fedrent ddal cwningod na thrin y tir yno.\n\u201cMoresg dwyflwydd oedd orau\u201d, cofia Mairwen. \u201cFe\u2019i torrwyd yn Awst, a\u2019i stycio\ni sychu \u2013 \u00e2i\u2019n wyn, bron iawn \u2013 ac yna fe\u2019i cludid i\u2019r pentref i\u2019w blethu\u2019n\nfatiau ac yn fasgedi. Gallai\u2019r gwragedd blethu a gwn\u00efo mat pob diwrnod, wedi\u2019i\nwneud o 65 plethiad o 11-13 cainc yr un, 4\u201d o led ac wyth llathen Gymreig (40\nmodfedd, yn hytrach na 36) o hyd.\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y cofia Mairwen o straeon ei mam, claddodd drycin Nadolig 1931 sawl tyddyn bach \u00e2 thywod o\u2019r traeth, y mwyafrif rhwng Llanddwyn a Niwbwrch. Yn eironig, y moresg, oedd yn darparu cyflog i bobl leol, oedd gynt (wedi gorchymyn o oes Elisabeth y Cyntaf yn gwahardd ei dorri) wedi tyfu\u2019n doreithiog a sefydlogi\u2019r twyni.  Bu i Catherine, ei dwy ferch a\u2019i thad farw o fewn ychydig flynyddoedd i\u2019w gilydd, gan adael y mab oedd yn weddill (taid Mairwen, Richard Jones) , a briododd Rebecca Jones o Falltraeth. \u2019Roeddent yn byw yn Rhedyn Coch, a magasant 11 o blant. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Dywed Mairwen y bu\u2019n rhaid talu\u2019r rhent, cyn i Rebecca brynu\u2019r fferm ym 1912, i\u2019r Eglwys yng Nghymru, i\u2019r ficer ym Mhenrhos Llugwy.&nbsp; &#8220;Ym 1720, rhoddwyd cymhorthdal y Frenhines Anne gan yr Eglwys i\u2019r ficer ym Mhenrhos Llugwy oherwydd bod y cyflog mor isel \u2019roedd diffyg bwyd ar y teulu a\u2019r plant yn newynu.&#8221; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Ac fel y dywed Mairwen \u2019roedd yn dro maith i dalu\u2019r rhent. \u201cGadawai am 7 o\u2019r gloch y bore, gan gerdded i Falltraeth ac yna i\u2019r L\u00f4n Bost, ac ar hyd y Cob Bach i Langefni. Oddi yno \u00e2i i fyny Saith Aelwyd i Rosmeirch, tros Fynydd Bodafon ac i lawr i d\u0177\u2019r eglwys.&#8221; Yno c\u00e2i Richard baned o de a pheth bara i\u2019w baratoi ar gyfer y daith hir yn \u00f4l i Redyn Coch erbyn iddi nosi. Tro maith, yn wir! <\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 4\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwrando<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-audio\"><audio controls src=\"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/Mairwen-Hughes-1.mp3\"><\/audio><figcaption>Mairwen Hughes (1)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-audio\"><audio controls src=\"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/Mairwen-Hughes-2.mp3\"><\/audio><figcaption>Mairwen Hughes (2)<\/figcaption><\/figure>\n<\/div><\/div>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cwningar, y llathen Gymreig, a thro hir, hir<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-fullwidth.php","meta":{"_EventAllDay":false,"_EventTimezone":"","_EventStartDate":"","_EventEndDate":"","_EventStartDateUTC":"","_EventEndDateUTC":"","_EventShowMap":false,"_EventShowMapLink":false,"_EventURL":"","_EventCost":"","_EventCostDescription":"","_EventCurrencySymbol":"","_EventCurrencyCode":"","_EventCurrencyPosition":"","_EventDateTimeSeparator":"","_EventTimeRangeSeparator":"","_EventOrganizerID":[],"_EventVenueID":[],"_OrganizerEmail":"","_OrganizerPhone":"","_OrganizerWebsite":"","_VenueAddress":"","_VenueCity":"","_VenueCountry":"","_VenueProvince":"","_VenueState":"","_VenueZip":"","_VenuePhone":"","_VenueURL":"","_VenueStateProvince":"","_VenueLat":"","_VenueLng":"","_VenueShowMap":false,"_VenueShowMapLink":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1868","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1868","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1868"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1868\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2368,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1868\/revisions\/2368"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1868"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}