{"id":1861,"date":"2020-03-26T19:45:03","date_gmt":"2020-03-26T19:45:03","guid":{"rendered":"http:\/\/llynparcmawr-org.stackstaging.com\/stories-morwenna-owen\/"},"modified":"2020-03-27T18:04:19","modified_gmt":"2020-03-27T18:04:19","slug":"straeon-morwenna-owen","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/straeon-morwenna-owen\/","title":{"rendered":"Straeon: Morwenna Owen"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Cymuned ffyniannus, siopa lleol \u2013 ac ymwelwyr brenhinol<\/h2>\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-caxton-grid relative\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-columns caxton-grid-block\" style=\"padding-top:0;padding-left:0;padding-bottom:0;padding-right:0;grid-template-columns:repeat(12, 1fr)\" data-tablet-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\" data-mobile-css=\"padding-left:em;padding-right:em;\">\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 8\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darllen<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Morwenna Owen wedi byw gydol ei 56 mlynedd yn Niwbwrch, ac yn ei hystyried ei hun yn ffodus o gael \u201cei gennu a\u2019i magu yn y gymuned hyfryd hon,\u201d gan ddweud iddi dreulio\u2019r \u201crhan fwyaf o\u2019n plentyndod ar y traeth ac yn y goedwig.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel yr esbonia, dyna\u2019r oes cyn cyfrifiaduron, gemau fideo a ffonau symudol, felly\u2019r oedd plant yn chwarae y tu allan, ac \u00e2 llawer o ryddid; adeg haf poeth eithriadol 1976, bu iddi \u201cymfudo i\u2019r traeth, yn llythrennol!\u201d Ar benwythnosau \u00e2\u2019i thad \u00e2\u2019r teulu i\u2019r traeth yn y fan. \u201cCyn gynted ag y bu inni gyrraedd ymyl y goedwig, byddai yna deuluoedd yn cerdded, plant mewn coetsis cadair a byddai pawb yn cael pas. \u2019Roedd yn gymuned enfawr!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2019Roedd \u201cdipyn o fynd\u201d yn nhad Morwenna; \u201c\u2019roedd pawb yn ei nabod,\u201d ac fe\u2019i gelwid o yn \u201cYogi\u201d gan ei gyd-goedwigwyr \u2013 tipyn callach na\u2019r arth gyffredin. Anogwyd o i fynd i brifysgol, ond \u2019roedd ar ei fam angen y cyflog ar gyfer y teulu. \u201cHyd yn oed pan oedd yn 75 oed, daliai i siaradai am y diwrnod hwnnw fel un tristaf ei fywyd, ynghyd \u00e2\u2019r diwrnod y collodd o ei fam.\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, canfu ei thad fod gweithio yn y goedwig yn gyfnod dedwydd, gan weithio \u00e2 dynion o bob oed. Ond \u2019roedd yn waith caled &#8211; plannu coed ifainc, agor ffosydd draenio a dyfrio, plannu\u2019r moresg, hyd yn oed yn yr eira. Cyneuai\u2019r dynion danau mewn drymiau i gadw\u2019n gynnes, ond \u2019doedd dim cyfleusterau yno. Ymgasglent yn y pentref i gyd-gerdded i\u2019r goedwig: \u201ccymerai awr dda neu awr a hanner i gerdded yno, ym mhob tywydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2019Roedd y goedwig yn gyflogwr mawr. \u201c\u2019Roedd pawb \u2019roeddem ni yn ei adnabod yn gweithio yn y coed mewn rhyw fodd. O bob oedran, \u00e2 gwahanol swyddi, a daethai \u00e2 phres i\u2019r pentref. \u2019Roedd dwy siop sglods, dau roser, dau gigydd, garej go iawn efo petrol. Awn i siop Norman, efo bag yng ngwaelod y goets babi, i gael caraits rhydd, tatws rhydd, caws wedi\u2019i dorri a\u2019i lapio mewn papur llwyd, cig moch yr un fath.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y diwedd, ddechrau\u2019r 1970au, aeth y gwaith coedwigaeth ar i waered, a symudodd tad Morwenna at waith arall. \u201cOnd \u2019roedd wastad yn hoff o Landdwyn, hyd ddiwrnod ei farwolaeth.\u201d Hyd at ganol y 1980au, \u2019roedd g\u0175r Morwenna\u2019n gweithio yn y goedwig, hefyd, yn teneuo coed: \u201cyn cwympo\u2019r coed \u2019roedd fy nhad wedi\u2019u plannu!\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y dywed Morwenna, mae\u2019r traeth wedi newid yn syfrdanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf [ddechrau\u2019r 2000au], gydag erydu\u2019r twyni gan y drycinoedd garw diweddar. \u201cOnd os soniwch wrth genhedlaeth h\u0177n y pentref, gallant gofio adegau pan fyddai\u2019r tywod yn chwythu i mewn i\u2019r t\u0177. Dyna rywbeth na welais i erioed, a dwi\u2019n meddwl mai\u2019r coed a\u2019r twyni tywod a\u2019r moresg sy\u2019n gyfrifol.\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyfarfu \u00e2 rhai ymwelwyr brenhinol yn y coed yn ddiweddar, a darfu iddynt ddweud: \u201cDyma\u2019r lle gorau oll, fuom ni erioed yn ddedwyddach na phan fuom ni\u2019n byw yma.\u201d Ac fel y dywed Morwenna: \u201cEin gardd gefn ni yw hon, ac alla\u2019i ddim dychmygu \u2013 o edrych ar y goedwig r\u0175an \u2013 beidio \u00e2 gweld yr un goeden yno.\u201d<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-caxton-section relative\" style=\"grid-area:span 1\/span 4\"><div class=\"absolute absolute--fill\"><div class=\"absolute absolute--fill cover bg-center\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );\"><\/div><div class=\"absolute absolute--fill\" style=\"background-color:;background-image:linear-gradient( );opacity:1;\"><\/div><\/div><div class=\"relative caxton-section-block\" style=\"padding-top:5px;padding-left:5px;padding-bottom:5px;padding-right:5px\" data-mobile-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\" data-tablet-css=\"padding-left:1em;padding-right:1em;\">\n<h3 class=\"has-text-align-left wp-block-heading\">Gwrando<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left wp-block-paragraph\">Dim ffeil awdio ar gael ar hyn o bryd<\/p>\n<\/div><\/div>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymuned ffyniannus, siopa lleol \u2013 ac ymwelwyr brenhinol<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-fullwidth.php","meta":{"_EventAllDay":false,"_EventTimezone":"","_EventStartDate":"","_EventEndDate":"","_EventStartDateUTC":"","_EventEndDateUTC":"","_EventShowMap":false,"_EventShowMapLink":false,"_EventURL":"","_EventCost":"","_EventCostDescription":"","_EventCurrencySymbol":"","_EventCurrencyCode":"","_EventCurrencyPosition":"","_EventDateTimeSeparator":"","_EventTimeRangeSeparator":"","_EventOrganizerID":[],"_EventVenueID":[],"_OrganizerEmail":"","_OrganizerPhone":"","_OrganizerWebsite":"","_VenueAddress":"","_VenueCity":"","_VenueCountry":"","_VenueProvince":"","_VenueState":"","_VenueZip":"","_VenuePhone":"","_VenueURL":"","_VenueStateProvince":"","_VenueLat":"","_VenueLng":"","_VenueShowMap":false,"_VenueShowMapLink":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1861","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1861","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1861"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1861\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1863,"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1861\/revisions\/1863"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llynparcmawr.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1861"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}